Ffyrdd ar gau ar gyfer cyngerdd Beyonce a Jay-Z

  • Cyhoeddwyd
Jay-Z a BeyonceFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y gyngerdd yn Stadiwm Principality yw dechrau taith Beyonce a Jay-Z o amgylch y byd

Bydd nifer o ffyrdd ar gau yng nghanol Caerdydd ddydd Mercher am fod Beyonce a Jay-Z yn perfformio yn Stadiwm Principality.

Dyma fydd dechrau eu taith On the Run II o amgylch y byd, fydd hefyd yn teithio i Glasgow, Manceinion a Llundain ar eu cymal yn y DU.

Mae'r trefnwyr wedi annog pobl i beidio dod â bagiau mawr ac unrhyw eitemau sydd wedi'u gwahardd gan fod systemau diogelwch llym ar y ffordd i mewn i'r stadiwm.

Mae Trenau Arriva Cymru yn annog teithwyr i ddal y trên cynharaf posib i ganol y ddinas.

Bydd nifer o ffyrdd ar gau yng nghanol y ddinas am 18:00, a does dim disgwyl iddyn nhw ailagor nes 23:30.

Fe fydd system parcio a theithio ar gael o Stadiwm Dinas Caerdydd yn ardal Lecwydd, ac mae'r manylion llawn ar gael ar wefan Cyngor Caerdydd, dolen allanol.