Surrey yn trechu Morgannwg yn y Cwpan Undydd
- Cyhoeddwyd
Mae canlyniad siomedig Morgannwg yn erbyn Surrey yn yr Ofal yn golygu eu bod wedi methu mynd i rownd nesaf y Gwpan Undydd.
Fe gollodd Morgannwg o bum wiced, ond doedd hynny ddim yn ddigon i Surrey orffen yn y tri uchaf chwaith.
Er gwaethaf 98 rhediad Connor Brown doedd cyfanswm Morgannwg o 266 ddim yn ddigon.
Cyrhaeddodd y tîm cartref eu targed o 267 yn ddidrafferth diolch i berfformiadau cadarn Will Jacks a chapten Surrey Rory Burns.
Mae Morgannwg yn gorffen yr ymgyrch gyda dim ond un fuddugoliaeth.