Clwb Pêl-droed Dinas Bangor yn osgoi cael eu diddymu
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Dinas Bangor wedi llwyddo i osgoi cael eu diddymu yn dilyn achos yn y Uchel Lys.
Fe wnaeth y Swyddfa Dreth ddwyn achos yn erbyn y clwb am fod trethi'n ddyledus iddynt.
Ond cafodd y cais i ddiddymu'r clwb ei wrthod mewn gwrandawiad yn Llundain ddydd Mercher wedi i'r barnwr glywed fod y bil bellach wedi ei dalu.
Dywedodd Bangor mai bil treth arferol oedd wedi'i dalu deuddydd yn hwyr oedd ar fai, a bod "môr a mynydd" wedi'i wneud o'r achos.
Rheolwr newydd
Ym mis Ebrill cafodd Bangor wybod nad oedden nhw wedi cael trwydded ddomestig i barhau i chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru.
Mae hynny'n golygu y bydd y clwb yn disgyn i Gynghrair Undebol Huws Gray y tymor nesaf am y tro cyntaf erioed.
Dywedodd CPD Dinas Bangor eu bod wedi methu cael trwydded oherwydd problemau gyda'u gwybodaeth a'u datganiadau ariannol.
Ond ar ôl dweud i ddechrau eu bod yn ystyried camau cyfreithiol, penderfynodd y clwb na fyddan nhw'n herio dyfarniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Ers y cadarnhad y byddan nhw'n disgyn o Uwch Gynghrair Cymru mae'r rheolwr Kevin Nicholson a'r is-reolwr Gary Taylor-Fletcher wedi gadael.
Yn eu lle mae Bangor wedi penodi Craig Harrison fel rheolwr, ac mae'r clwb hefyd wedi ailarwyddo'r ymosodwr Les Davies ar gyfer y tymor nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd16 Mai 2018
- Cyhoeddwyd23 Mai 2018