Arian hyfforddi swyddogion heddlu Cymru wedi 'diflannu'

  • Cyhoeddwyd
Heddlu
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder gallai swyddogion dan hyfforddiant gael eu colli i luoedd yn Lloegr

Mae bron i £3m o arian hyfforddi lluoedd heddlu Cymru wedi "diflannu" heb unrhyw esboniad gan Lywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU.

Mae Ffederasiwn yr Heddlu, sy'n cynrychioli prif swyddogion a heddlu cyffredin, yn dweud fod yr arian wedi'i golli yn dilyn dadl rhwng y ddwy lywodraeth.

Mae pryder y gallai swyddogion dan hyfforddiant gael eu colli i luoedd yn Lloegr, ar ôl i heddluoedd yno dderbyn eu siâr nhw o'r cyllid hyfforddiant.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod pryderon lluoedd heddlu Cymru.

Ond maen nhw'n honni na ddylai nhw fod yn gyfrifol am gyllid hyfforddi swyddogion yr heddlu.

Hyfforddi recriwtiaid

Mae arian o'r ardoll prentisiaethau yn cael ei ddefnyddio i helpu hyfforddi recriwtiaid sydd heb radd academaidd.

Fe gafodd y pot o arian ei gyflwyno ym mis Ebrill llynedd, ac mae pob cyflogwr sy'n talu dros £3m y flwyddyn i weithwyr yn cyfrannu i'r pot, gan gynnwys heddluoedd a chynghorau.

Ond mae'r ffederasiwn yn dweud nad ydyn nhw wedi gweld ceiniog o'r arian ac mae pryder bydd rhaid iddyn nhw ddefnyddio arian o'u cyllid cyffredinol i dalu am hyfforddiant.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Jeff Cuthbert mae Heddlu Gwent wedi talu £500,000 i'r ardoll prentisiaethau

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert fod y llu wedi talu mwy na £500,000 hyd yma ond nad ydyn nhw'n gwybod ble mae'r arian wedi mynd.

"Y cyfan allwn ni ddweud yw bod Heddlu Gwent wedi talu hanner miliwn i'r ardoll prentisiaethau, o'n safbwynt ni, dyna ble mae'r arian yn parhau," meddai.

"Y cyfan sydd angen arnom ar hyn o bryd yw i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, gan gynnwys y Swyddfa Gartref yn enwedig, i gael hyn yn iawn er mwyn i ni gael symud ymlaen."

Mae'r ffederasiwn yn dweud na allai Llywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU egluro ble mae cyfran Cymru o'r arian - £3m - wedi mynd.

Mae Llywodraeth y DU, sydd a'r cyfrifoldeb dros y cyllid, yn gyrru'r arian yn syth i'r sefydliadau hynny sydd eisoes wedi talu fewn i'r pot er mwyn iddyn nhw hyfforddi prentisiaethau.

'Cydnabod pryderon'

Ond mae siâr Cymru'n cael ei yrru i weinidogion Bae Caerdydd, sydd wedyn yn dosbarthu'r arian.

Gan fod polisi sgiliau wedi'i ddatganoli, nid yw'n golygu fod yr arian yn cael ei wario ar brentisiaethau yng Nghymru, a gallai gael ei wario yn ddibynnol ar benderfyniadau gweinidogion yng Nghaerdydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mewn datganiad mae Llywodraeth Cymru yn rhoi'r bai ar Lywodraeth y DU, ond doedden nhw'n methu cadarnhau wrth BBC Cymru ble roedd yr arian wedi mynd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod yr ardoll prentisiaethau yn "dreth cyflogaeth Llywodraeth y Du sy'n gwrthdaro ac yn tanseilio ardaloedd sydd wedi'i datganoli".

"Mae cyfrifoldeb dros faterion gweithredol yr heddlu, gan gynnwys hyfforddiant dan ofal y Swyddfa Gartref," meddai'r llefarydd

"Ar y llaw arall rydym yn cydnabod y pryderon sy'n cael eu cyfleu gan y lluoedd heddlu yng Nghymru, ac rydym wedi bod yn eu cynrychioli'n gryf wrth drafod gyda Llywodraeth y DU."

'Mewn trafodaethau'

Ychwanegodd: "Cyn i'r ardoll prentisiaethau gael ei osod yng Nghymru, doedden ni ddim yn cyllido hyfforddiant swyddogion yr heddlu.

"Mae Llywodraeth y DU nawr yn disgwyl i ni gyllido'r hyfforddiant. Rydym yn ategu mai cyfrifoldeb y Swyddfa Gartref ydyw."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae Llywodraeth y DU eisiau sicrhau'r canlyniad gorau posib i luoedd heddlu ar hyd Cymru a Lloegr ac i Goleg yr Heddlu, ac mae adrannau mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd i wireddu hyn."