Merched Cymru 1-0 Bosnia-Herzegovina

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Uchafbwyntiau: Cymru 1-0 Bosnia-Herzegovina

Mae tîm pêl-droed merched Cymru ar frig Grŵp A yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd wedi buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Bosnia-Herzegovina yn Stadiwm Liberty.

Mewn gêm ble roedd Cymru'n llwyr reoli'r chwarae, dim ond un gôl lwyddodd y cochion sgorio ar ôl sawl cyfle i ymestyn eu mantais.

Roedd cyfraniad Jess Fishlock i Gymru yn arbennig gyda'i chwarae creadigol.

Bu bron i Fishlock roi Cymru ar y blaen ychydig eiliadau cyn yr hanner ar ôl rhediad gwych o ganol y cae, ond llwyddodd Hasanbegovic i arbed yn dda yn y gôl i'r ymwelwyr.

Fe ddechreuodd yr ail hanner gyda Chymru yn pwyso am y gôl agoriadol.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe fethodd Helen Ward gyfle euraidd o'r smotyn i roi Cymru ar y blaen

Fe ddylai Helen Ward fod wedi sgorio ar ôl 54 munud o'r smotyn.

Roedd y gic yn syth lawr canol y gôl ac roedd yr arbediad yn un hawdd i Hasanbegovic.

Saith munud yn ddiweddarach llwyddodd Kayleigh Green i roi'r bêl yn y rhwyd ar ôl amddiffyn gwael gan Bosnia.

Llwyddodd Cymru i barhau i bwyso ond ni ddaeth ail gôl o'r noson.

Roedd dathliadau ar fainc Cymru wedi'r chwiban olaf wrth i ferched Jayne Ludlow gymryd cam yn nes at gyrraedd Cwpan y Byd yn Ffrainc yn 2019.

Gyda dwy gêm yn weddill, bydd Cymru yn wynebu Rwsia yng Nghasnewydd ar 12 Mehefin cyn croesawu Lloegr yn eu gêm olaf ddiwedd mis Awst.