Profi cwch i hwylio rhwng Llansteffan a Glanyfferi
- Cyhoeddwyd
Fe fydd cwch sydd wedi ei ddatblygu i gludo teithwyr rhwng Llansteffan a Glanyfferi yn Sir Gâr yn cael ei brofi am y tro cyntaf ddydd Llun.
Mae grŵp sydd am adfer y gwasanaeth fferi hanesyddol wedi cael grant o £300,000 i dalu am y cwch ac i ailsefydlu'r gwasanaeth.
Cwmni o Solfach sydd wedi ail-adeiladu'r cwch, a bore Llun bydd yn cael ei brofi ym Mhorth Glais ger Tyddewi.
Yn ystod y 19eg Ganrif a dechrau'r 20fed Ganrif roedd y croesiad yn boblogaidd gyda thwristiaid o dde Cymru, yn enwedig yn ystod pythefnos o wyliau'r glowyr.
Daeth i ben yn yr 1950au, gan olygu bod rhaid teithio 18 milltir gan nad oedd modd croesi.
Mae'r grant yn caniatáu i'r grŵp adeiladu fferi gydag olwynion tebyg i awyren, ac felly ni fydd angen glanfa.
I ddechrau bydd yn hwylio'n ddyddiol am wyth mis a hanner y flwyddyn, ond y bwriad yn y pen draw yw hwylio gydol y flwyddyn.
Bydd y prosiect yn creu pum swydd a'r gobaith yw y bydd y fferi yn dechrau ar ei thaith yn ddiweddarach yn yr haf.
Daeth y syniad ar gyfer adfer y gwasanaeth gan Kenton Morgan, cyn-athro ym Mhrifysgol Lerpwl.
Cyn i'r cynllun gael yr arian dywedodd: "Rydyn ni'n gwybod fod 400,000 o bobl yn ymweld â thraeth Cefn Sidan bob blwyddyn a degau o filoedd yn ymweld â chastell Llansteffan, castell Glanyfferi a Thalacharn.
"Petai'r cynllun yn cael sêl bendith bydd y cynllun ei hun yn denu twristiaid."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2017