Cyngor Wrecsam yn rhoi £25,000 i gadw'r CAB lleol ar agor
- Cyhoeddwyd
![Canolfan Cyngor ar Bopeth Wrecsam](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/9869/production/_101971093_00ba9fad-b0dc-49ba-9b9f-2fe6c5a5f5d1.jpg)
Roedd Canolfan Cyngor ar Bopeth Wrecsam wedi delio â hyd at 5,000 o achosion y llynedd
Mae Cyngor Wrecsam wedi cytuno i roi £25,000 i'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth (CAB) lleol i sicrhau ei fod yn aros ar agor am y flwyddyn nesaf.
Daeth taliadau'r ganolfan i ben yn ôl ym mis Mawrth oherwydd polisi'r cyngor o beidio ag ariannu sefydliadau trydydd parti.
Roedd y ganolfan wedi dweud na fyddai modd iddyn nhw barhau i weithredu ymhellach na mis Mehefin heb gefnogaeth ariannol allanol.
Roedd yr un taliad o £25,000 yn un o bedwar opsiwn gan y cyngor ynglŷn â dyfodol ariannol CAB Wrecsam.
Cafodd y penderfyniad i ddod ag ariannu sefydliadau trydydd parti i ben ei wneud yn ôl ym mis Hydref 2015.
Fel rhan o'r penderfyniad hwnnw cytunwyd y byddai taliadau i'r CAB yn lleihau dros gyfnod o ddwy flynedd, cyn dod i ben eleni.
![Linebreak](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/3680/production/_96525931_mediaitem77300236.jpg)
Opsiynau'r cyngor
Parhau gyda'r cynllun gwreiddiol i beidio ag ariannu sefydliadau trydydd parti, ac felly dod a'r taliadau i'r CAB i ben;
Cyfrannu £50,000 am 12 mis cyn cynnal arolwg ar ddiwedd y flwyddyn ganlynol 2019/20;
Cynnig taliadau o £25,000 am y flwyddyn fyddai'n galluogi'r CAB i gynnig tua 5,000 o gyfweliadau - yn ôl y gost gyfartalog am gynnal cyfweliad;
Parhau i ariannu ar lefel y flwyddyn flaenorol o £23,600 er mwyn ymestyn y broses o ddiddymu'r cymorth ariannol.
![Linebreak](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/3680/production/_96525931_mediaitem77300236.jpg)
'Adnodd hanfodol'
Cyn y gwrandawiad ddydd Mawrth dywedodd cynghorwyr Plaid Cymru y dylai'r cyngor ddefnyddio arian - sydd wedi'i arbed drwy beidio â chael prif weithredwr - i gadw'r ganolfan ar agor.
Dywedodd arweinydd grŵp Plaid Cymru, Marc Jones, fod y ganolfan yn Wrecsam yn "adnodd hanfodol" yn yr ardal, a'i fod wedi delio â mwy na 5,000 o achosion llynedd.
"Mewn cyfnod lle mae mwy o bobl yn ei gweld hi'n anodd cadw to uwch eu pen, canfod gwasanaethau a derbyn cyngor annibynnol, mae hi'n hanfodol fod profiad ac arbenigedd y CAB ar gael," meddai.
Yn ôl Mr Jones mae'r cyngor wedi arbed hyd at £100,000 drwy beidio â chyflogi prif weithredwr yn y naw mis diwethaf, a dylai'r cyngor dderbyn un o'r opsiynau "rhesymol" sydd wedi eu cynnig.