Gwaharddiad posib yng Nghymru ar ffioedd tenantiaid
- Cyhoeddwyd
Fe allai landlordiaid a gweithredwyr gosod gael eu gwahardd rhag codi ffioedd i denantiaid rhent preifat yng Nghymru dan gynlluniau am ddeddf newydd.
Gallai troseddwyr wynebu cosb o £500, dirwyon diderfyn a'r posibilrwydd o golli eu trwydded landlord.
Dywedodd y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans y dylai'r mwyafrif o denantiaid ond orfod talu rhent mis a blaendal diogelwch.
Mae'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl yn dweud mai canlyniad y ddeddf fyddai cynnydd mewn rhent.
'Rhesymol, fforddiadwy a thryloyw'
Ar hyn o bryd fe allai tenantiaid orfod talu ffioedd amrywiol am resymau gweinyddol, gan gynnwys credyd, ymchwiliadau mewnfudo neu i fynd i weld yr adeilad.
Mae ffioedd gweithredwyr gosod wedi cael ei gwahardd yn Yr Alban ers 2012, ac mae ACau o wahanol bleidiau wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn yr un drefn.
Fe wnaeth Llywodraeth y DU wneud addewid i'w gwahardd nhw yn Lloegr yn araith y Frenhines yn 2017.
Bydd y Mesur Rhentu Cartrefi yn caniatáu gweithredwyr a landlordiaid i godi ffioedd sy'n gysylltiedig â rhent, blaendal diogelwch, blaendal cadw neu pan mae tenant yn torri rheolau'r cytundeb.
Dywedodd Ms Evans y byddai'r mesur yn sicrhau fod costau rhentu yn dod yn "fwy rhesymol, fforddiadwy a thryloyw, mewn sector sy'n ffynnu ac sy'n cynnwys 15% o holl dai".
Ychwanegodd y byddai'n adeiladu ar y ddeddfwriaeth flaenorol "er mwyn sicrhau fod y rheiny sy'n penderfynu rhentu yn y sector preifat yn derbyn safon uchel, cael eu trin yn deg a thryloywder".
"Mae ffioedd gweithredwyr gosod yn aml yn rhwystr i nifer o denantiaid, yn enwedig y rheiny sydd ar gyflogau isel," meddai.
"Ni fydd tenantiaid o hyn allan yn gorfod talu am ymweliad gyda rhywun arall, derbyn neu arwyddo cytundeb. Ni fydden nhw'n gorfod talu am adnewyddu tenantiaeth, na chwaith bydd rhaid iddyn nhw dalu ffi pan maen nhw'n symud allan."
Dywedodd cyfarwyddwr Cymdeithas Landlordiaid Preswyl Cymru, Douglas Haig: "Bydd gwahardd ar ffioedd tenantiaid yn rhoi mwy o bwysau ar landlordiaid i arolygu'r cyfanswm y gallan nhw godi o ran rhent i wneud yn iawn am y gost sy'n cael ei osod gan weithredwyr gosod.
"Yn y diwedd bydd yn cynyddu'r pwysau ar y rhai mwyaf diniwed yng Nghymru gan na fydden nhw'n gallu cael cymorth gan weithredwyr i gael tenantiaeth, ac mae'n symud y gost ar denantiaid hir dymor sydd wedi mwynhau cynnydd bach iawn o ran cost rhent am nifer o flynyddoedd."