'Dim cynlluniau' gan Rhun ap Iorwerth i herio Leanne Wood

  • Cyhoeddwyd
Rhun ap Iorwerth
Disgrifiad o’r llun,

"Fe fysa'r cyfle i ddod yn Brif Weinidog ar wlad fy hun yn rhywbeth y buaswn wrth fy modd yn ei wneud" meddai Rhun ap Iorwerth

Mae AC blaenllaw o Blaid Cymru wedi cadarnhau nad oes ganddo unrhyw gynlluniau i herio Leanne Wood am arweinyddiaeth y blaid.

Mae'r ffenestr sy'n caniatáu ceisiadau i herio am arweinyddiaeth pleidiau yn y Cynulliad yn cau fis nesaf.

Mae AC Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth wedi dweud wrth newyddiadurwyr mai Leanne Wood ddylai arwain Plaid Cymru nes o leiaf etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2021.

Pan ofynnwyd i Mr ap Iorwerth os oedd am wneud cais am yr arweinyddiaeth yn ystod yr wythnosau nesaf, dywedodd:

"Fe allai gadarnhau nad oes gen i, nag unrhyw un arall, gynlluniau i roi ein henwau ymlaen yn y ffenestr yma.

"O'm safbwynt i, does gen i ddim gwybodaeth am unrhyw un, gan gynnwys fy hun sy'n cynllunio ymgyrch neu sy'n cynllunio i roi enwau ymlaen."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Leanne Wood ddod yn arweinydd Plaid Cymru yn 2011

Yn y gorffennol mae Mr ap Iorwerth wedi dweud "byddai'n ystyried cynnig am arweinyddiaeth Plaid Cymru petai Leanne Wood yn camu lawr."

Fe wnaeth siarad am ei uchelgais o arwain y wlad yn ystod sgwrs ym mhabell Radio Cymru ar faes yr Eisteddfod ym Modedern.

"Fe fysa'r cyfle i ddod yn Brif Weinidog ar wlad fy hun yn rhywbeth y buaswn wrth fy modd yn ei wneud, wrth gwrs - pwy fysa ddim?"

Gofynnwyd iddo os mai ei ddymuniad yw gweld Leanne Wood yn arwain y blaid am dair blynedd arall?

"Ie," meddai. "Mae trafodaethau yn digwydd ar hyn o bryd sydd wedi'i drefnu gennym ni fel plaid drwy gael rheolau mewn lle sy'n agor trafodaeth ynglŷn â rôl yr arweinydd.

"Mae Leanne fel arweinydd yn cael cefnogaeth lawn y blaid.

"Rydym yn dîm eithaf unedig ac mae bod yn unedig yn golygu bod yn feirniadol ac yn agored gyda'n gilydd," meddai.