Dau'n ddieuog o gyhuddiadau twyll bws Express Motors

  • Cyhoeddwyd
Bysus
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cyhuddiadau'n ymwneud â chwmni bysiau Express Motors ym Mhenygroes

Mae dau yrrwr bws o Wynedd wedi eu cael yn ddieuog o gynllwynio i dwyllo ar ôl i'r erlyniad ollwng yr achos yn eu herbyn.

Roedd Michael Munson, 52 o Lanllechid, Bangor, ac Aled Wyn Davies, 41 o Rosgadfan ger Caernarfon, wedi eu cyhuddo ynghyd a gweithwyr eraill o gwmni Express Motors, Penygroes.

Roedd yr erlyniad wedi honni bod y ddau'n rhan o gynllwyn i gofnodi bod mwy o docynnau rhad wedi eu gwerthu na'r gwirionedd er mwyn gwneud enillion anonest.

Ond cafwyd y ddau yn ddieuog gan y barnwr yn Llys y Goron Caernarfon, Timothy Petts, ar ôl i'r erlyniad ollwng y cyhuddiadau yn eu herbyn.