Ffyrdd ar gau ar gyfer cyngerdd y Rolling Stones

  • Cyhoeddwyd
Mick Jagger o'r Rolling Stones

Mae Cyngor Caerdydd yn rhybuddio y bydd nifer o ffyrdd ar gau yn y brif ddinas ddydd Gwener wrth i filoedd o bobl deithio i weld cyngerdd y Rolling Stones.

Mae'r grŵp yn perfformio yn Stadiwm Principality fel rhan o'u taith No Filter, gydag Elbow hefyd yn diddanu'r dorf.

Bydd rhai o ffyrdd canol y ddinas ar gau rhwng 17:30 a 23:30.

Mae'r trefnwyr hefyd yn gofyn i bobl adael bagiau mawr gartref ac i beidio dod ag eitemau sydd wedu eu gwahardd dan system ddiogelwch llym wrth gyrraedd y stadiwm.

Mae'r cyngor yn annog pawb sydd â thocyn i drefnu eu taith ymlaen llaw ac i ddisgwyl traffyrdd a chefnffyrdd prysur.

Ac mae Trenau Arriva Cymru'n annog teithwyr i ddal y trên cynharaf posib i ganol y ddinas.

Fe fydd yna wasanaeth parcio a theithio o ardal Lecwydd, ac mae'r manylion llawn ar gyfer theithwyr ar wefan Cyngor Caerdydd, dolen allanol.