Bwrw ymlaen gyda gwaith ffordd Caerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i'r gwaith o adeiladu ffordd newydd yng Nghaerfyrddin ailgychwyn yr wythnos yma.
Roedd oedi wedi bod ar y cynllun trafnidiaeth £5m, ond mae'r cyngor lleol yn dweud ei bod wedi dod i gytundeb ynglŷn â chaffael darn o dir allweddol erbyn hyn.
Roedd cam cyntaf y cynllun wedi ei orffen ym mis Hydref.
Bydd y ffordd newydd yn cysylltu'r A40 ger Travellers Rest â Ffordd y Coleg gan olygu y bydd mynediad uniongyrchol i yrwyr i ffyrdd llai lle mae swyddfeydd fel Parc Dewi Sant a champws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Dyma fydd y ffordd gyswllt i staff fydd yn gweithio ym mhencadlys newydd S4C, Yr Egin hefyd.