Lukasz Fabianski yn arwyddo i West Ham

  • Cyhoeddwyd
FabianskiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Fabianski yn ei ddagrau ar ôl gêm olaf y tymor i Abertawe yn Uwch Gynghrair Lloegr pan gwympodd yr Elyrch i'r Bencampwriaeth

Mae'r golwr Lukasz Fabianski wedi gadael Abertawe ac wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda West Ham Utd.

Y gred yw bydd West Ham yn talu ffi o £6m am y golwr 33 oed, wnaeth arwyddo i Abertawe yn 2014.

Yn dilyn cwymp yr Elyrch i'r Bencampwriaeth fe wnaeth Fabianski gyhoeddi ei fod yn awyddus i adael y clwb er mwyn parhau i chwarae yn yr Uwch Gynghrair.

Mae Fabianski yn rhan o dîm Gwlad Pwyl yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd ar hyn o bryd, a dywedodd:

"Mae West Ham yn glwb enfawr ac rwy'n eithriadol o hapus fy mod yn gallu ymuno mewn cyfnod mor gyffroes."

Dywedodd Cyfarwyddwr Pêl-Droed West Ham, Mario Husillos fod y clwb wedi arwyddo "golwr profiadol sydd wedi dangos safon ar y lefel ryngwladol ac yn ddomestig."