Digon o gydnabyddiaeth i ferched mewn amaeth?
- Cyhoeddwyd
Oes yna ddigon o sylw haeddiannol i ferched mewn amaeth? A pha mor bwysig ydy rôl y cyfryngau i sicrhau eu bod nhw'n cael eu cydnabod?
Mae Anna Jones yn newyddiadurwraig sydd wedi gwneud ymchwil ar sut mae'r wasg yn portreadu materion ffermio. Bu'r ferch fferm yn siarad â Cymru Fyw:
Dwi'n dod o deulu fferm yn Llansilin, sydd ddim yn bell o Groesoswallt.
Mae fy nheulu i yn mynd yn ôl pump neu chwe chenhedlaeth ar y fferm, ond o edrych yn ôl ar luniau teuluol mae'n gwneud fi'n drist cyn lleied o weithiau mae'r merched yn ymddangos.
Dim ond un llun oedd Mam yn gallu gweld ohoni hi ei hun mewn amgylchedd ffermio ac mae hi wedi gweithio llawn mor galed â Dad ar hyd y blynyddoedd.
Dydyn nhw ddim yn cael eu gwerthfawrogi am y gwaith allweddol maen nhw'n ei wneud ar y fferm.
Ond mae angen i ferched gael yr hyder i siarad ar ran y busnes a'r teulu.
Bues i'n gweithio i'r BBC am 12 mlynedd yn gweithio ar raglenni fel Countryfile a Farming Today fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr cyn mynd yn llawrydd ym mis Ebrill.
Dwi wedi colli cyfrif ar y nifer o weithiau dwi wedi cysylltu â merched yn fy ngwaith er mwyn cael eu barn nhw ar ryw fater ac maen nhw'n mynd â'r ffôn at y gŵr. Maen nhw'n teimlo bod angen caniatâd y gŵr i siarad.
Mae 'na ryw agwedd mai un dyn sy'n rhedeg y fferm ond yn aml y merched sy'n edrych ar ôl y llyfrau ac maen nhw'n aml iawn yn gwybod mwy mewn gwirionedd am y busnes na'r gŵr!
Mae'r datgysylltiad rhwng ein trefi a'n hardaloedd gwledig yn dylanwadu ar y ffordd mae'r wasg, sy'n urban ar y cyfan, yn adlewyrchu materion ffermio.
Fel rhan o'r ysgoloriaeth amaethyddol Nuffield, es i ar draws y byd i America, Kenya, Denmarc, Gwlad Belg, Ffrainc, Iwerddon a ledled y Deyrnas Unedig i edrych ar hyn, a'r un oedd y broblem.
Mae 'na ddiffyg cyswllt rhwng y wasg a'r ffermwyr. Mae newyddiadurwyr o dan gymaint o bwysau a hynny gyda diffyg adnoddau yn aml iawn.
Does ganddyn nhw ddim amser i fynd allan a chyfarfod â ffermwyr rhagor. Mae gohebwyr amaethyddol fwy neu lai wedi diflannu erbyn hyn.
Mae newyddiadurwyr felly yn dod yn ddibynnol ar y cyrff yma sydd i gyd ag agenda gwleidyddol.
Rydym ni'n orddibynnol ar y cyrff yma i ddod o hyd i gyfranwyr ac yn aml iawn dydyn nhw ddim yn cynnig safbwyntiau gwahanol a does dim digon o amrywiaeth o ran barn. All hynny ddim bod yn beth da.
Ond mewn gwirionedd mae'r sefyllfa yn iachach yn y gwledydd datganoledig.
Mae gan Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon boblogaeth uwch o ffermwyr na Lloegr ac felly maen nhw'n dueddol o gael eu cynrychioli'n well yn y wasg.
Mae pobl yn wirioneddol caru rhaglenni fel Ffermio. Ond yn Iwerddon, mae'r gwahaniaeth yn bonkers.
Mae'r wlad mwy neu lai yn dod i stop pan mae'r pencampwriaethau aredig blynyddol yn cael eu cynnal.
'Angen i ferched wybod bod ni eu hangen nhw'
Ond nid jyst bai'r wasg ydy'r [diffyg cynrychiolaeth], mae gan ffermwyr le i wella hefyd.
Dydy ffermwyr ddim yn agored iawn yn enwedig os ydyn nhw dan lot o bwysau fel cwmnïau a dydyn nhw ddim wastad yn agored. Mae hynny'n cyfrannu at y datgysylltiad.
Dwi'n bwriadu dechrau bas data o ffermwyr annibynnol sy'n fodlon siarad efo'r cyfryngau ac i wneud yn siŵr bod eu llais nhw'n cael eu cynrychioli'n iawn.
Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod nifer o'r rhain yn ferched a dyna yw fy mwriad i yn y cynadleddau yma, i adael merched mewn amaeth wybod ein bod ni eu hangen nhw.
Bydd Cyswllt Ffermio yn cynnal gweithdai Merched Mewn Amaeth ar ddydd Iau, 21 Mehefin yn Cae Ras, Wrecsam, 15:00-21:00, ac ar ddydd Iau, 28 Mehefin, Gwesty y Metropole, Llandrindod, 15:00-21:00.