Y dyn sy'n ffermio mewn cadair olwyn
- Cyhoeddwyd
Bron i bedair blynedd yn ôl fe newidiodd bywyd Rhys Lewis am byth.
Roedd o wedi bod yn helpu ei dad i dorri coed ar fferm y teulu yn Nyffryn Dyfi pan syrthiodd coeden a'i daro ar ei gefn.
Roedd o'n 24 oed ac yn un o sêr tîm rygbi Machynlleth.
Cafodd ei gludo i'r ysbyty yn Stoke-on-Trent mewn hofrennydd. Buan y daeth hi'n glir ei fod wedi ei barlysu ac y byddai'n wynebu bywyd mewn cadair olwyn.
"Dwi'n cofio meddwl 'mae'n rhaid i fi gadw'n bositif'," meddai Rhys. "'Di bywyd ddim yn stopio ac ers hynny dwi wedi dysgu adaptio i wneud pob peth."
Mae hi'n amlwg o siarad efo Rhys ei fod yn gymeriad penderfynol iawn.
"Mae'n fater o ganolbwyntio ar y pethau y gallai i eu gwneud," meddai. "Mae fy nheulu a fy nghariad wedi bod yn help mawr i fi wrth i fi ddod yn ôl i wneud 'chydig o waith ar y fferm.
"Y gaeaf yw'r adeg gwaetha' gan nad oes 'na lawer o waith y galla i 'neud ar y fferm, ond y llynedd mi ges i dractor sydd wedi ei addasu efo lifft, felly pan ddaw'r gwanwyn byddai'n gallu treulio mwy o amser yn gweithio."
Saethu a chyflwyno Cefn Gwlad
Roedd yn rhaid i Rhys roi'r gorau i chwarae rygbi ond yn y deunaw mis diwethaf mae o wedi dangos ei ddoniau mewn camp gwbl wahanol.
"Ro'dd gen i ddiddordeb mewn saethu erioed ond doedd gen i ddim amser i fynd ati o ddifri'.
"Y llynedd roedd hi'n fraint cael bod yn rhan o dîm saethu colomennod clai Cymru a bod yn gapten.
"Dwi'n gobeithio rŵan y galla' i gadw fy lle yn y tîm ar gyfer y gystadleuaeth Brydeinig, yn enwedig gan ei bod hi'n cael ei chynnal eleni yma yn y canolbarth yn Nhrefeglwys."
Dros yr wythnosau nesaf hefyd bydd cyfle i wylwyr Cefn Gwlad ar S4C weld doniau darlledu Rhys.
Mae'n un o nifer o wynebau newydd fydd yn cadw cwmni i'r bytholwyrdd Dai Jones wrth gyflwyno'r gyfres eiconig.
Meleri Williams o Lanrhystud, Ioan Doyle o Fethesda a Mari Lovgreen o Lanerfyl yw'r cyflwynwyr eraill.
"Ro'n i'n awyddus i roi cynnig arni hi wedi i mi gael galwad ffôn ym mis Medi. Hyd yma mae'r adborth wedi bod yn bositif iawn.
"Mae bywyd cefn gwlad yn bwysig iawn i mi a rwy'n edrych ymlaen i gyfarfod rhagor o gymeriadau sy'n cadw ein cymunedau yn fyw," meddai Rhys.
"Dwi wedi mwynhau'r profiad a byddai'n braf cael cyfle i wneud rhagor o waith teledu. Dwi hefyd yn awyddus i weithio rhagor ar y fferm a falle g'neud chydig o waith contractio.
"Dwi'n gobeithio bydd pobl yn gwerthfawrogi nad ydy anabledd fel fy un i ddim yn rwystr rhag gallu mwynhau bywyd a manteisio ar brofiadau newydd."
Cefn Gwlad, S4C, nos Fawrth, 27 Chwefror, 20:00