Cyngor teithio cyn cyngherddau Ed Sheeran yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Ed Sheeran
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ed Sheeran yn perfformio yn Stadiwm Principality am bedair noson, gan ddechrau nos Iau

Mae 'na rybudd i bobl sydd wedi prynu tocynnau i gyngherddau Ed Sheeran yng Nghaerdydd i gynllunio'u taith a chyrraedd mewn da bryd, oherwydd pryderon am dagfeydd traffig a mesurau diogelwch llym.

Bydd y canwr yn perfformio yn Stadiwm Principality am bedair noson, gan ddechrau nos Iau.

Fydd yna ddim gwasanaethau trên hwyr yn ôl i Lundain a fydd dim trenau i'r cymoedd wedi cyngerdd nos Sul.

Bydd ffans a brynodd docynnau o safleoedd ailwerthu yn cael cynnig tocynnau dilys.

Amodau tocynnau caeth

Mae trefnwyr y cyngherddau wedi penderfynu galw'n ôl unrhyw docynnau sydd wedi eu gwerthu gan dowtiaid, ac maen nhw wedi canslo tocynnau gafodd eu prynu ar wefannau ailwerthu.

Bydd unrhyw un brynodd o'r safleoedd hynny - yn aml am brisiau llawer uwch - yn cael help i gael ad-daliad yn y swyddfa docynnau ac yn cael cynnig prynu tocynnau dilys.

Cyhoeddodd Sheeran amodau caeth i bobl a fyddai'n dod i'w gyngherddau ar ei daith 18 diwrnod drwy'r DU - taith sy'n dod i ben gyda'r pedair noson yng Nghaerdydd.

Mae'r amodau'n cynnwys:

  • Enwau wedi eu printio ar docynnau, ac angen prawf ID wrth y drws;

  • Uchafswm o bedwar tocyn i bob cwsmer;

  • Canslo tocynnau sydd wedi eu hailwerthu;

  • Canslo unrhyw docyn sydd wedi ei brynu gan "fusnes neu fasnachwr".

Ffynhonnell y llun, Stadiwm Principality
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd nifer o ffyrdd y ddinas yn cau ar gyfer y cyngherddau

Mae teithwyr ar y trenau'n cael eu cynghori i gynllunio'u taith, gan na fydd gwasanaeth trên i bob man wedi'r cyngherddau.

Does dim disgwyl gwasanaethau i Lundain, Birmingham a Portsmouth wedi i'r cyngherddau ddod i ben am 22:30, a fydd dim gwasanaethau hwyr i'r cymoedd nos Sul.

Cau ffyrdd

Bydd rhai ffyrdd yng nghanol Caerdydd yn cau mor gynnar a 07:00 i baratoi ar gyfer y cyngherddau.

Bydd gatiau Stadiwm Principality yn agor am 17:00 a bydd y ffyrdd yng nghanol y ddinas yn cau am 17:30.

Mae diogelwch llym i'r cyngherddau - dim ond bagiau bach sy'n cael eu caniatáu yn y stadiwm, tra bo cluniaduron, ffyn hunlun ac ymbarélau wedi eu gwahardd.

Bydd bysiau Caerdydd yn cael eu dargyfeirio allan o'r ddinas ac mae cwmni Arriva wedi rhybuddio teithwyr ar drenau yng Nghaerdydd y bydd gwasanaethau'n brysur.

Bydd swyddogion nos Cyngor Caerdydd ar ddylestwydd am y pedair noson, yn hytrach na'r gwasanaeth arferol ar nos Wener a nos Sadwrn.