Cyhoeddi gemau Abertawe a Chasnewydd y tymor nesaf
- Cyhoeddwyd

Bydd clybiau pêl-droed Abertawe a Chasnewydd yn dechrau'r tymor nesaf gyda gemau oddi cartref.
Mae gêm gyntaf yr Elyrch yn ôl yn y Bencampwriaeth oddi cartref yn erbyn Sheffield United ar 4 Awst.
Fe fydd eu gêm gyntaf yn Stadiwm Liberty y penwythnos canlynol pan fyddan nhw'n croesawu Preston North End.
Gan fod tri o'r pum gêm agoriadol yn Stadiwm Liberty bydd rheolwr newydd y clwb, Graham Potter, yn gobeithio am ddechreuad cadarnhaol i'w gyfnod yn ne Cymru.
Bydd Abertawe yn cloi'r tymor gyda thaith i Blackburn Rovers, sydd newydd gael eu dyrchafu i'r gynghrair.

Taith oddi cartref i Mansfield sydd yn disgwyl Casnewydd ar benwythnos agoriadol Adran Dau.
Bydd tîm Michael Flynn yn gobeithio adeiladu ar dymor y llynedd wnaeth gynnwys rhediad annisgwyl yng Nghwpan FA Lloegr.
Crewe Alexandra fydd y tîm cyntaf i ymweld â Rodney Parade, a hynny ar 11 Awst.
Bydd eu tymor yn dod i ben ar 4 Mai wrth i Gasnewydd deithio i Morcambe.

Gemau Abertawe (gemau cartref yn dywyllach):
Sheffield United (4 Awst)
Preston North End (11 Awst)
Birmingham City (18 Awst)
Leeds United (22 Awst)
Bristol City (25 Awst)
Cliciwch yma, dolen allanol i weld rhestr gemau Abertawe yn llawn.

Gemau Casnewydd (gemau cartref yn dywyllach):
Mansfield (4 Awst)
Crewe Alexandra (11 Awst)
Exeter City (18 Awst)
Notts County (21 Awst)
Grimsby (25 Awst)
Cliciwch yma, dolen allanol i weld rhestr gemau Abertawe yn llawn.