Cynllun i wella gwasanaeth i rai gydag anableddau dysgu
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i wella gwasanaethau i bobol gydag anableddau dysgu.
Y gred ydi bod hyd at 75,000 o oedolion gydag anableddau dysgu yng Nghymru, ond bod Gwasanaethau Cymdeithasol ond yn ymwybodol o ryw 15,000 o'r rheiny.
Mi fydd cynllun Gwellau Bywydau'r Llywodraeth yn gosod pobol a theuluoedd wrth "galon gwasanaethau" meddai'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies.
Yn ôl Mencap Cymru, mae dal stigma a diffyg dealltwriaeth gydag anableddau dysgu.
Pum maes
Bydd y rhaglen Gwellau Bywydau yn canolbwyntio am bum maes penodol, gyda'r bwriad o wella gwasanaethau o fewn y meysydd hynny.
Maen nhw'n cynnwys:
Lleihau profiadau niweidiol pobol gydag anableddau dysgu pan maen nhw'n blant;
Helpu ac annog pobol i gyrraedd eu potensial o fewn y byd addysg a rhoi'r cymorth i'w galluogi i fyw bywydau llwyddiannus;
Sicrhau bod pobol yn gallu byw mewn tai sy'n nes at eu teuluoedd a'i ffrindiau;
Sicrhau bod Gofal Cymdeithasol o safon ar gael sy'n canolbwyntio ar anghenion yr unigolyn a gwneud addasiadau i wasanaethau iechyd pan bod angen.
Yn ôl Jane Young o Gaergybi, sy'n gofalu am ei mab 28 oed William, dyw lleisiau pobol ag anableddau dysgu ddim wedi bod yn cael eu clywed;
"Mae pobol efo anableddau dysgu wedi cael eu cuddio i ffwrdd am flynyddoedd. Mi ydan ni, eisiau i'r bobol yma gael ei gweld.
"Dydw i ddim eisiau fy mab i gael ei guddio i ffwrdd," meddai.
'Gwella bywydau'
Creu cyfleoedd i bobol gydag anableddau dysgu i fyw bywydau fel pawb arall ydi'r bwriad meddai Mr Irranca-Davies:
"Pwysigrwydd y rhaglen yma ydi gwella bywydau pobol sydd ag anableddau dysgu yng Nghymru a rhoi cyfleoedd i'r bobol yma, fel pawb arall a chael gwared ar y stigma sy'n dilyn llawer o bobol ifanc gydag anableddau dysgu."
Yn ôl Sara Pickard o Mencap Cymru, mae pobol gydag anableddau dysgu yn gallu teimlo'n unig mewn cymdeithas, felly mae'n bwysig rhoi'r un cyfleoedd iddyn nhw:
"Rydw i'n teimlo fod pobol gydag anableddau dysgu angen gallu gwneud penderfyniad eu hunain. Rydw i'n teimlo bod hynny'n holl bwysig oherwydd pan mae rhywun sydd ddim efo anabledd yn cael dewis - pam ddim rhoi'r un cyfle yna i rywun sydd ag anabledd dysgu?
"Rydw i'n meddwl bod hynny'n annheg , os ydach chi'n rhoi dewisiadau i un grŵp o bobl - ond nid grŵp arall."