Os chi'n meddwl bod hi'n boeth ar hyn o bryd...

  • Cyhoeddwyd

Gyda'r tymheredd ym Mhorthmadog yn cyrraedd record o 32.6ºC dydd Iau, mae llawer wedi bod yn ymfalchïo a diawlio'r cyfnod poeth ni wrthi'n mwynhau ar hyn o bryd.

Ond os chi'n meddwl fod hi'n boeth nawr, dyw hyn yn ddim i'w gymharu gyda haf 1976.

Disgrifiad,

Pwy sy'n cofio haf 1976?

Roedd gwaharddiad ar ddefnyddio pibau dŵr (dim llawer yn anarferol fan'na!) ond dros yr haf yn 1976 wnaeth lefelau nifer o argaeau ostwng yn ddifrifol wedi'r cyfnod hiraf o sychder ers 250 mlynedd, gyda rhai ardaloedd ddim yn gweld glaw am 45 diwrnod.

Dogni dŵr

Un o'r ardaloedd gafodd ei effeithio fwyaf oedd hen sir Gwent yn ne ddwyrain Cymru, lle gafodd dros 70 o gwmnïoedd eu gorchymyn i haneru eu defnydd o ddŵr... gan gynnwys pyllau glo a gweithfeydd dur - cofio'r rheiny?

Roedd hi mor ddifrifol fel bod rhaid i sefydliadau fel y gwasanaeth tân a'r gwasanaeth iechyd hefyd ddechrau cynllunio am y diffyg dŵr difrifol.

Pwerau arbennig

Cafodd deddf ei basio oedd yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol leihau defnydd dŵr drwy ddiffodd y cyflenwad ar brydiau o'r dydd i'r cyhoedd.

Cafodd tanceri dŵr eu dosbarthu i rai ardaloedd er mwyn darparu dŵr ac mewn nifer o ardaloedd, yr unig ffordd i gael dŵr oedd drwy ddefnyddio tapiau cyhoeddus, standpipes.

Disgrifiad o’r llun,

Y gorffennol yn codi i'r wyneb oherwydd y sychder

Y nod oedd arbed digon o ddŵr i alluogi diwydiant a gwasanaethau allweddol i barhau i weithredu.

Yng Nghymru, roedd y gostyngiad yn lefelau argaeau yn golygu bod adfeilion hen adeiladau yn cael eu gweld eto fel hen bont yn argae Llwyn-Onn ac yn fwy dadleuol efallai, gwelwyd adfeilion rhannau o Gapel Celyn yn codi fel atgof o'r hyn ddigwyddodd.

Dim ha' bach Mihangel

Er mor ddifrifol oedd y sychder mawr yn ystod Mehefin, Gorffennaf ag Awst 1976, erbyn mis Medi ddaeth y glaw. Lot o law.

Cyn hir, roedd y sychder mawr yn atgof pell gyda phobl yn cwyno am y glaw eto!