Un wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr M4

  • Cyhoeddwyd
penllergaerFfynhonnell y llun, Traffig Cymru

Mae un person wedi marw wedi gwrthdrawiad ar yr M4 yn oriau man fore Llun.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar y ffordd tua'r gorllewin ger cyffordd 47, Penllergaer.

Cafodd yr heddlu eu galw am tua 01:20 fore Llun.

Mae dyn arall wedi cael ei gludo i Ysbyty Treforys gydag anafiadau difrifol, ond nid yw ei fywyd mewn perygl.

Bu'r ffordd ar gau am rai oriau, ond fe wnaeth ailagor am 07:35.