'Go home Polish': Y dyn sy'n cerdded o Gaerdydd i Wlad Pwyl
- Cyhoeddwyd
Mae Michal Iwanowski yn ffotograffydd sy'n gweithio ar syniad sydd yn ei dywys ar draws Ewrop.
Mae'n cydweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru ar brosiect 'Go home, Polish', gafodd ei sbarduno gan graffiti welodd Michal yng Nghaerdydd.
Ar hyn o bryd mae Michal yn Yr Almaen, wrth iddo gerdded yr holl ffordd o Gaerdydd i'w bentref enedigol yng Ngwlad Pwyl.
Bu'n siarad gyda Cymru Fyw am ei brosiect ac yn rhannu rhywfaint o luniau o'i daith hyd yma:
Yn 2008 fe welais graffiti yn fy ardal i o Gaerdydd, yn dweud 'Go home, Polish'. Nes i feddwl am y peth am rywfaint, yn ansicr os dylwn i wirioneddol fynd rhywle neu os oeddwn i, mewn gwirionedd, adref yn barod.
Yn 2016, gyda'r refferendwm ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn rhwygo Prydain yn ei hanner a thon o genedlaetholdeb yn tyfu ledled Ewrop, roedd y slogan ychydig bach yn fwy tywyll ac o'n i'n teimlo'r angen i ymateb iddo, yn llythrennol.
Setlo yng Nghymru
'Nes i astudio ym Mhrifysgol Morgannwg am un tymor fel rhan o gynllun cyfnewid i fyfyrwyr (Socrates Erasmus) yn 2001. O'n i'n gorffen fy ngradd MA mewn Saesneg ym Mhrifysgol Wrocław ar y pryd.
Mi wnes i fyw yng Nghaerdydd am bum mis gan wneud ffrindiau gwych ac yna dwi jest 'di aros yma. O'n i'n cymryd pethau fesul blwyddyn, ond wedi 15 mlynedd yma ges i fy ngwneud yn ddinesydd o'r DU yn 2016 - mae'n saff i ddweud mod i ddim am adael.
Dwi'n artist llawrydd ac yn dysgu ffotograffiaeth yn Ffotogallery, dolen allanol, lle wnes i ddechrau fy addysg ffotograffiaeth nôl yn 2003. Dwi'n byw yn Y Rhath yng Nghaerdydd, ond dwi'n teithio dipyn gyda fy ngwaith gydag arddangosfeydd yn y DU a thramor.
Dros y dair blynedd ddiwethaf dwi wedi bod yn gweithio gydag Age Cymru ar brosiect cyffrous 'cARTrefu', sy'n dod â chelf i bobl hŷn sy'n byw gyda dementia ledled Cymru.
Ysbrydolaeth gan fy nhaid
Roedd fy mhrosiect blaenorol yn delio gyda phrofiad fugitive. Wnes i ddefnyddio stori fy nhaid, a wnaeth ddianc o garchar yn yr Undeb Sofietaidd yn 1945, er mwyn amlygu erchylltra'r argyfwng ffoaduriaid yn Syria.
Yn anffodus mae ein sefyllfa wleidyddol bresennol yn rhoi digon o ysbrydoliaeth i artistiaid ei ddefnyddio. Yn gyffredinol, dwi'n gwerthfawrogi ffotograffiaeth sydd â rhywbeth i'w ddweud, nid rhywbeth self-indulgent.
Dechrau'r daith
Ym mis Ebrill 2018 fe ddechreuais i ar siwrne 1800km, yn cerdded rhwng fy nau gartref - Cymru a Gwlad Pwyl - gyda phasbort Prydeinig yn un llaw a phasbort Gwlad Pwyl yn y llall.
Wnes i linell syth ar y map, prynu pâr o 'sgidiau cerdded da, a cherdded o fy fflat yng Nghaerdydd gan wynebu i'r dwyrain: Cymru, Lloegr, Ffrainc, Gwlad Belg, Yr Iseldiroedd, Yr Almaen, Gweriniaeth Tsiec, Gwlad Pwyl.
Fy mwriad oedd gofyn un cwestiwn i bobl - ble mae adref?
Er roeddwn i'n disgwyl gwrthdaro, polemics, a theimlo'n chwithig, ni ddaeth y gwrthwynebiad a'r gwrthdaro. I'r gwrthwyneb. Roedd pobl yn ymateb i fy nghwestiwn mewn ffordd hynod o bersonol, ar lefel ddynol, yn hytrach na dinesydd a thramorwr.
Fe wnaeth y rhan fwyaf roi eu llaw ar eu calonnau i ddangos lle roedd adref. Dim ond ychydig wnaeth sôn am eu cenedligrwydd.
Fel oedd y siwrne'n mynd yn ei flaen roedd y slogan 'Go home, Polish' yn amlygu ei hun i fod yn amherthnasol. Ond fe wnes i ddewis cadw'r teitl, ac fel canolbwynt symbolaidd ar gyfer y prosiect.
Pwrpas hyn yw herio'r iaith sy'n dad-ddyneiddio (dehumanise) 'y lleill', er mwyn dod â'r agenda wleidyddol i bersbectif yr unigolyn.
Prif bwrpas y prosiect yw rhoi wyneb dynol ar 'y nhw' neu'r 'arall'. Mae'r iaith sy'n cael ei defnyddio yn y cyfryngau, a'r ystadegau yn hollol ar wahân i unrhyw bersbectif personol, rydym yn delio gyda 'termau ymbarél' fel 'mewnfudwyr', sy'n eirfa beryglus iawn.
Hiliaeth yng Nghymru?
Mewn llawer o ffyrdd mae ein realiti yn debyg i hynny oedd yn Ewrop yn y 1930au. Mae grŵp gwahanol yn cael ei dargedu, ond mae'r mecanwaith yr un peth. Rwy'n gwrthwynebu hyn. Dydw i heb brofi unrhyw wrthwynebiad yn bersonol ond mae gweld graffiti fel 'Go home, Polish' yn gwneud i mi boeni.
Dwi'n gobeithio y bydd fy ngwaith yn annog y gynulleidfa i ystyried beth yw eu syniad nhw o adref, perthyn a chroesawu gwahaniaethau.
Er nad wyf i wedi ei brofi'n bersonol, byddai'n naïf i ddweud bod yna ddim hiliaeth yng Nghymru. Dwi'n ystyried y Cymry fel pobl ffeind ac addfwyn.
Dwi wedi gweithio gyda Cymru Dros Heddwch mewn ysgolion lle'r oedd disgyblion yn gwneud fideos am gyfraniadau Cymru i brosesau heddwch, ac roedd yn braf a hynod o galonogol i weld pa mor ymrwymedig a phryderus oedd y plant.
Ond mae achosion o hiliaeth yn bodoli, fel yr hyn ddigwyddodd i Dimitris Legakis, ffotograffydd swyddogol Clwb Pêl-droed Abertawe, a gafodd ei ymosod arno'n ddifrifol am ei fod yn siarad Saesneg ag acen dramor, a bod yn 'wahanol'.
Mae Brexit wedi esgusodi hiliaeth, ac wedi rhoi'r golau gwyrdd iddo. Mae'r anghydfod a oedd dan yr wyneb bellach wedi ffeindio venting point. Digwyddodd hyn yn Yr Almaen 70 mlynedd yn ôl, ac mae'r 'meddylfryd mob' yn gallu lledaenu fel tân.
Yn syth wedi'r bleidlais dros Brexit fe gynyddodd yr ymosodiadau tuag at fewnfudwyr i lefel eithafol. Roedd cardiau wedi eu lamineiddio gyda 'no more Polish Vermin' yn cael eu dosbarthu drwy flychau llythyrau a chafodd pobl eu gwawdio yn gyhoeddus gyda'r gorchymyn i adael - nid yn unig pobl Bwylaidd, ond unrhyw un oedd yn swnio neu'n edrych yn wahanol. Roedd hyn yn bodoli cyn Brexit wrth gwrs, ond dim i'r fath raddau.
Arddangos yng Nghymru a Gwlad Pwyl
Bydd fy mhrosiect diweddara' yn cael ei arddangos mis Medi yn Galeri Caernarfon ac yn Fort yn Warsaw. Bydd ffilm ddogfen am y siwrne yn yr arddangosfeydd hefyd, ynghyd â cherddoriaeth gan Gwenno/Rhys Edwards a WH Dyfodol.
Bydd yr arddangosfa yn teithio i Gaerdydd yn hwyrach yn yr hydref, ac yna byddaf yn canolbwyntio ar hybu'r gwaith ymhellach.