Pa mor wahanol yw'r gwasanaeth iechyd dros y DU?
- Cyhoeddwyd
Gohebydd iechyd BBC Cymru, Owain Clarke, sydd wedi bod yn cymharu'r gwasanaeth iechyd ar draws y DU.
Ar yr olwg gyntaf mae'n anodd gweld gwahaniaeth.
Mae ysbytai yn edrych yn ddigon tebyg yn Glasgow, Belfast, Llundain ac Abertawe.
Ond mae gwasanaeth iechyd y pedair gwlad yn wahanol - dwi wedi bod ar wibdaith i geisio deall sut.
Yr Alban
Mae'r ffigyrau yn awgrymu taw'r Alban sy'n perfformio orau o ran targedau fel amseroedd aros.
Mae 'na ganmoliaeth hefyd i ymdrechion y wlad i wneud defnydd o dechnoleg newydd.
Ond ai'r Alban felly sydd orau?
Ar ôl hyfforddi fel ffisiotherapydd yng Nghymru mae Dr Rhian Noble Jones wedi gweithio yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae bellach yn academydd ym Mhrifysgol Glasgow ac yn arwain ymchwil ym maes iechyd i Lywodraeth Yr Alban.
Mae'n dweud nad oes modd dweud i sicrwydd fod Yr Alban yn gwneud yn well na'r gwledydd eraill, ond mae meysydd ble maen nhw'n sicr yn arloesi.
Gogledd Iwerddon
Ar ôl gadael Glasgow, mae'n daith fer dros Fôr yr Iwerydd i Belfast.
Mae cyfraddau problemau iechyd meddwl yn uwch yma nag yng ngwledydd eraill y DU, yn rhannol oherwydd gwrthdaro'r gorffennol. Ac mae hynny'n her benodol.
Ond dyma'r unig le sydd wedi llwyddo i uno gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac er y dylai hynny elwa cleifion, y gwir amdani yw Gogledd Iwerddon sy'n perfformio waethaf o ran targedau amrywiol fel amseroedd aros.
Mae Liam Andrews, sy'n byw yn Belfast, wedi cael profiad o aros amser maith am driniaeth.
Lloegr
Ar ôl ymweld â'r system iechyd lleia', rwy'n cyrraedd Llundain i weld y mwya'.
Yn cyflogi ymhell dros filiwn o staff, mae Gwasanaeth Iechyd Lloegr yn gawr o'i gymharu â'r lleill a dyma'r mwya' cymhleth o ran strwythur hefyd.
Cymerwch Ysbyty Royal Marston yn Llundain sy'n gyfrifol am ofal canser fel enghraifft.
Tra bod yr ysbyty yn gyfrifol am ddarparu triniaeth, corff arall sy'n gyfrifol am dalu a dewis, i bob pwrpas, ble mae'r claf yn derbyn gofal.
Mae Owain Rhys Hughes yn llawfeddyg yno.
Gwersi ar gyfer Cymru
Felly beth mae hyn i gyd yn ei olygu i Gymru?
Mae fy nhaith yn dod i ben yn Abertawe gyda'r economegydd iechyd, Yr Athro Ceri Phillips.
Ar ôl cannoedd o filltiroedd yr hyn sy'n amlwg yw bod y gwasanaeth iechyd ym mhob un o'r gwledydd yn ceisio taclo heriau aruthrol - weithiau mewn ffyrdd gwahanol.
Ond â neb wedi llwyddo i ddod o hyd i'r holl atebion, ydy'r systemau yn gwneud digon i ddysgu o'i gilydd?
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2018