Y Gwasanaeth Iechyd wedi fy 'methu', medd claf canser
- Cyhoeddwyd
Mae claf wnaeth ddarganfod fod ei ganser wedi lledaenu yn ei gorff ar ôl cael sgan preifat yn dweud fod y GIG wedi ei "fethu" am iddyn nhw wrthod sgan iddo.
Fe wnaeth Shaun Redmond, 64 o Gaergybi, ddatblygu canser y coluddyn dair blynedd yn ôl cyn gwella ohono.
Yn gynharach eleni daeth y canser yn ôl ac fe wnaeth ymgynghorydd meddygol wneud cais am sgan CT i weld os oedd y canser wedi lledaenu ymhellach.
Ond clywodd Mr Redmond, sy'n gynghorydd tref yng Nghaergybi, nad oedd yn cyrraedd y gofynion ar gyfer cael sgan.
Dywedodd fod ei ymgynghorydd wedi dweud y gallai wneud cais am gyllid claf unigol ar gyfer sgan, ond cafodd ei rybuddio gallai'r broses gymryd misoedd.
'Siomedig a blin'
Cafodd wybod yn ddiweddarach y gallai dalu £943 am sgan, wnaeth maes o law ddangos fod y canser wedi lledaenu.
"Nid yn unig dwi'n teimlo'n siomedig, ond dwi'n flin iawn. Mae wedi achosi cymaint o boen meddwl a phryder i mi a fy ngwraig.
"Roeddwn wastad yn credu fod y GIG wedi'i sefydlu i gynnig triniaeth am ddim pan fo angen, ond yn yr achos yma mae wedi methu... mae wedi fy methu i," meddai Mr Redmond.
Ychwanegodd nad oedd wedi cael clywed pam fod ei gais gwreiddiol am sgan wedi cael ei wrthod.
"Rwy'n hynod siomedig ac yn flin fy mod wedi gorfod talu i gael clywed fod gennyf ganser rhywle arall yn fy nghorff.
"Dylai hynny ddim digwydd i neb."
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Ni allwn rannu gwybodaeth am ofal claf oherwydd cyfrinachedd, a byddwn yn ymateb i'w bryderon yn uniongyrchol.
"Os nad yw cleifion yn cyrraedd gofynion ar gyfer gwasanaeth penodol, sydd wedi'i osod ar hyd a lled Cymru, fe allen nhw wneud cais am driniaeth drwy broses cyllid claf unigol."