Gwobrwyo 'gwaith gwych' uned dialysis Ysbyty Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
Antonia Beteta, Sina Daehne a Tracey Jones o'r uned yn derbyn y wobr
Disgrifiad o’r llun,

Antonia Beteta, Sina Daehne a Tracey Jones o'r uned yn derbyn y wobr

Mae un o ganolfannau trin clefydau arennol yng Ngwynedd wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am eu gwasanaeth.

Mewn seremoni wobrwyo gan sefydliad Aren Cymru ym Mhrifysgol Abertawe, fe gafodd Uned Dialysis Ysbyty Gwynedd, Bangor ei choroni fel canolfan ddialysis y flwyddyn.

Roedd y gwobrau eleni yn arwyddocaol, gan fod Aren Cymru newydd ddathlu 50 mlynedd ers ei sefydlu.

Mae'r uned ym Mangor yn darparu gwasanaethau dialysis ar leoliad chwe diwrnod yr wythnos, gwasanaethau dialysis yn y cartref yn ogystal â rhwydwaith o gefnogaeth ychwanegol i gleifion, sy'n cynnwys cymorth dietegol, gweithiwr cymdeithasol a seicolegydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd yr elusen fod nyrsys a staff yr uned yn derbyn y gydnabyddiaeth am eu "cyfraniad gwerthfawr i fywydau pobl" sy'n byw gyda chlefydau ar yr arennau yng Nghymru.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd rheolwr yr uned, Antonia Beteta: "Rwy'n falch iawn bod y gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan bawb ym Mangor wedi derbyn y gydnabyddiaeth.

"Maen nhw'n dîm gwych sydd bob amser yn fodlon mynd y cam ychwanegol i gefnogi'n cleifion.

"O safbwynt personol, mae'n wych gallu derbyn y wobr er mwyn, gobeithio, ysbrydoli eraill i helpu pobl sy'n byw gyda chlefyd yr arennau."

Fe gafodd y digwyddiad ei gynnal yng Nghanolfan Moeseg Bywyd a Rhoddion Organau ym Mhrifysgol Abertawe.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r uned ym Mangor yn darparu gwasanaethau dialysis ar leoliad chwe diwrnod yr wythnos

Dywedodd Prif Weithredwr Aren Cymru, yr Athro Roy Thomas: "Mae'r gwaith y mae'r bobl hyn yn ei wneud o ddydd i ddydd yn eithriadol ac yn amhrisiadwy wrth wella bywydau pobl yng Nghymru sy'n byw gyda chlefyd yr arennau.

Ychwanegodd Raj Aggarwal, Cadeirydd Aren Cymru: "Ar ôl dathlu 50 mlynedd o Aren Cymru yn ddiweddar, roedd yn hollol briodol ein bod yn anrhydeddu ymdrechion cymaint o grwpiau ac unigolion sydd wedi rhagori yn y maes.

"Mae yna lawer o straeon ysbrydoledig i'w clywed."