Cyngor Caerdydd 'yn wynebu twll ariannol o £91m'

  • Cyhoeddwyd
Cyngor CaerdyddFfynhonnell y llun, M J RICHARDSON/GEOGRAPH

Mae cyngor mwyaf Cymru wedi dweud y bydd yn rhaid iddyn nhw dorri gwasanaethau oherwydd diffyg yn eu cyllideb.

Yn ôl Cyngor Caerdydd "dyw'r arian ddim yno bellach", ac fe fydd rhai gwasanaethau "fyddwn ni methu darparu i drigolion yn y dyfodol".

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru dywedodd aelod cabinet y cyngor dros gyllid, Chris Weaver ei bod hi'n rhy gynnar i ddweud beth yn union fyddai'n cael ei gwtogi.

Mae disgwyl i ymgynghoriad gyda threthdalwyr gael ei gynnal yn yr hydref.

Arian wrth gefn

Dywedodd y Cynghorydd Weaver fod disgwyl i dreth y cyngor godi o ryw 4.3% y flwyddyn nesaf, ond y gallai hynny newid "am nad ydyn ni wedi cael y setliad terfynol eto".

Ychwanegodd fod y cyngor yn wynebu twll du ariannol o £91m dros y tair blynedd nesaf.

Ddydd Gwener fe wnaeth y cyngor ryddhau strategaeth gyllid oedd yn crybwyll arbedion o £66m dros y tair blynedd nesaf - ond byddai hynny dal yn golygu canfod £25m arall.

Dywedodd yr adroddiad y byddai'n rhaid edrych ar gynyddu'r dreth cyngor, rhoi cap ar gynnydd yng nghyllidebau ysgolion, neu ddefnyddio arian wrth gefn.

"Mae pob cynnydd o 1% yn y dreth cyngor yn codi tua £1.4m... byddai cynnydd o 4-5% ond yn dod â thua £6m sydd ddim yn dod yn agos at gau'r bwlch," meddai'r Cynghorydd Weaver.

"Bydd yn rhaid i ni ganfod arbedion sylweddol a chynhyrchu incwm mewn sawl ffordd wahanol i osod y gyllideb hon."

Ffynhonnell y llun, Thinkstock/PA/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Dyw hi ddim yn glir eto pa wasanaethau fydd yn cael eu cwtogi gan Gyngor Caerdydd

Mae gan y cyngor £93m o arian wrth gefn, meddai'r cynghorydd, ac fe fyddai £1.5m o'r gronfa honno'n cael ei defnyddio - ond ychwanegodd nad oedd hynny'n "ateb".

Mae cyllidebau cynghorau yn cynnwys arian sy'n dod o grant Llywodraeth Cymru, treth cyngor, a ffioedd am wasanaethau megis parcio.

Yn setliad ariannol y llynedd Cyngor Caerdydd oedd yr unig un yng Nghymru i weld cynnydd, a hynny o 0.2%, ym maint y grant a gawson nhw gan y llywodraeth.

Ar y pryd dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford fod angen i awdurdodau lleol "edrych ar eu harian wrth gefn er mwyn gweld os allen nhw wasgu rhagor allan".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio'n galed o ystyried effaith llymder sydd wedi dod yn sgil toriadau cyllid niferus o gyfeiriad Llywodraeth y DU.

"Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud wrth awdurdodau am baratoi ar gyfer yr amseroedd caletach a'r dewisiadau anoddach sydd o'u blaenau, ac y dylen nhw ystyried yr holl adnoddau sydd ar gael iddyn nhw."