'Rhaid i San Steffan ddeall heriau ffermio Cymru'

  • Cyhoeddwyd
SheepFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae angen i Lywodraeth y DU ddeall heriau ffermio Cymru yn ôl adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig ar Brexit.

Mae'r adroddiad yn nodi'r prif bynciau ddylai gael sylw yn ystod trafodaethau'r DU gyda'r Undeb Ewropeaidd (UE), ac yn galw ar y llywodraeth i lansio polisïau fydd yn cefnogi amaethyddiaeth yng Nghymru drwy annog rhagor o gynhyrchiant a marchnata.

Mae'r adroddiad yn galw hefyd am lais cryf i Gymru wrth i lywodraethau'r DU a Chymru drafod dyfodol polisi amaethyddol.

 Wrth gyflwyno'r adroddiad, dywedodd y cadeirydd, David T. C. Davies AS y byddai "goblygiadau sylweddol" i'r diwydiant amaeth yn sgil y penderfyniad i adael.

"Mae consensws clir o ran ceisio lleihau unrhyw effaith niweidiol o ganlyniad i Brexit a datblygu cyfleoedd ar gyfer y sector," meddai.

"O ystyried pwysigrwydd amaethyddiaeth i economi Cymru, mae'n hanfodol fod yr holl randdeiliaid yn gweithio gyda'i gilydd i roi sicrwydd i ffermwyr Cymru a'u busnesau fel eu bod yn medru cynllunio ar gyfer y tymor hir."

Diogelu statws cig Cymru

Yr UE yw'r brif farchnad ar gyfer allforio cynnyrch amaethyddol o Gymru, ac mae'n derbyn dros 80% o allforion bwyd ac anifeiliaid.

Pwysleisia'r adroddiad fod "mynediad di-rwystr i farchnadoedd yr UE yn hanfodol ar gyfer dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru".

Disgrifiad o’r llun,

Bara Lawr Cymreig yw'r cynnyrch diweddaraf i dderbyn statws gwarchodedig Ewrop

Mae'r adroddiad hefyd yn galw ar y llywodraeth i "gydnabod mai safbwynt y rhan fwyaf o bobl a gyfrannodd i'r ymchwiliad oedd bod aelodaeth o'r Farchnad Sengl a'r Undeb Tollau yn parhau" er mwyn sicrhau mynediad heb rwystrau newydd.

Mae'r adroddiad yn nodi'n benodol y dylai system Dynodiadau Daearyddol Gwarchodedig (PGI) yr UE barhau ar gyfer cynnyrch Cymreig fel cig oen a chig eidion o Gymru, halen Môn a bara lawr.

Mae'r adroddiad yn dweud "y bydd cefnogaeth ariannol parhaol yn hanfodol yn y tymor byr er mwyn cynnal y sector amaethyddiaeth yng Nghymru" ar ôl i'r DU golli'r Polisi Amaethyddiaeth Cyffredin.

Mae'r pwyllgor hefyd yn dadlau y bydd yn rhaid i'r system gymorthdaliadau yn y dyfodol "sicrhau nad yw ffermwyr yn wynebu caledi" a bod angen i Gymru dderbyn cyfran deg o unrhyw gyllid sy'n cefnogi amaethyddiaeth.

Mae'r adroddiad yn argymell bod Llywodraeth y DU yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth i "gefnogi a hyrwyddo amaethyddiaeth yng Nghymru - yn enwedig y sector cig coch".

O ran y sector cig coch, mae'r adroddiad yn annog y llywodraeth i newid y "fframwaith cymhleth sy'n sail i'r trethi ar gyfer cig coch fel bod y gwerth sy'n deillio o ladd anifeiliaid sy'n cael eu magu yng Nghymru yn cael ei ailfuddsoddi mewn hyrwyddo cynnyrch Cymreig".