Pedwar person yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad ar yr M4

  • Cyhoeddwyd
M4Ffynhonnell y llun, Traffig Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa ar yr M4 tua'r dwyrain ger Casnewydd

Mae ciwiau chwe milltir o hyd ar yr M4 yn dilyn gwrthdrawiad rhwng sawl cerbyd ger Casnewydd ble cafodd pedwar person eu hanafu.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am 11:44 wrth gyffordd 24, Coldra ar yr M4 i gyfeiriad y dwyrain.

Mae ambiwlans awyr bellach wedi glanio ger y safle, a'r gred yw bod carafán wedi disgyn ar ei hochr.

Yn ôl adroddiadau mae'r ciw yn ymestyn hyd at gyffordd 26, Ffordd Malpas.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth ambiwlans fod tri pherson wedi eu cludo i Ysbyty Brenhinol Gwent a bod un arall wedi eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.