Arestio dyn yn dilyn gwrthdrawiad ger Caernarfon

  • Cyhoeddwyd
heddlu

Mae Heddlu'r Gogledd wedi arestio dyn 49 oed yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tri char ar yr A4244 ger Caernarfon ddydd Sul.

Cafodd yr heddlu eu galw am 15:00 yn dilyn adroddiad o wrthdrawiad rhwng VW Golf, Mazda MX5 a Nissan Duke ger Brynrefail.

Mae un person bellach wedi cael eu cludo i ysbyty arbenigol yn Stoke ag anafiadau difrifol.

Cafodd tri pherson arall hefyd eu trin gan wasanaethau brys yn lleoliad y gwrthdrawiad cyn cael eu cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Yn dilyn y gwrthdrawiad dywedodd yr heddlu fod gyrrwr y VW Golf adael heb aros i weld sut oedd y teithwyr yn y ceir eraill.

Mae un dyn, 49 oed, bellach wedi ei arestio ac yn parhau yn y ddalfa, ar amheuaeth o oryfed, gyrru'n beryglus, peidio â stopio wedi gwrthdrawiad, a pheidio â stopio o'r heddlu.

Dywedodd y Sarjant Raymond Williams o'r Uned Plismona Ffyrdd: "Rydym yn credu bod y cerbyd wedi teithio o ardal Bethesda, felly rydym yn apelio i unrhyw un a fu'n teithio ar hyd yr heol honno rhwng 14:30 a 15:00 ac a welodd VW Golf du yn cael ei yrru mewn ffordd beryglus i gysylltu gyda ni."