Drôn i hedfan dros Gymru i ddathlu canmlwyddiant Awyrlu
- Cyhoeddwyd

Bydd y drôn yn hedfan dros Geredigion a Phowys tuag at diwedd ei daith i Sir Gaerloyw
Bydd awyren ddi-beilot yn hedfan dros Geredigion a Phowys ddydd Mercher fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant yr Awyrlu.
Mae'r awyren yn teithio 4,000 milltir o ogledd Dakota er mwyn cyrraedd dathliadau'r Royal International Air Tattoo (RIAT) yn Sir Gaerloyw.
Prototeip yw'r MQ-9B SkyGuardian, sy'n gallu hedfan am 48 awr dan reolaeth peilot ar y ddaear.
Dywedodd Linden Blue, prif swyddog cwmni amddiffyn o'r Unol Daleithiau, General Atomics, fod y daith yn ffordd "addas" i ddathlu canmlwyddiant yr Awyrlu.
Mae'r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) wedi cyflwyno cyfyngiadau hedfan dros dro er mwyn paratoi llwybr clir ar gyfer yr awyren - y mwyaf o'i fath i hedfan dros y DU.
Os bydd unrhyw broblemau technegol yn codi, mae maes awyr Llanbedr yng Ngwynedd wedi ei nodi fel safle posib i'r drôn lanio.