Prif seremonïau'r wythnos
- Cyhoeddwyd

Cynhelir seremonïau i anrhydeddu prif enillwyr yr Eisteddfod ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod wythnos y brifwyl.
Yr Archdderwydd, sef Geraint Lloyd Owen neu Geraint Llifon, sy'n arwain y prif seremonïau, a hynny am y tro olaf eleni, ac mae Gorsedd y Beirdd yn bresennol hefyd.
I lawer o Eisteddfodwyr, y prif seremonïau yw pinacl eu hwythnos gyda dyfalu mawr a fydd yna deilyngdod a phwy fydd yr enillydd.
Edrych yn ôl ar brif seremonïau Eisteddfod Genedlaethol 2017
Isod mae canllaw i seremonïau'r wythnos ac yma bydd rhestr o enillwyr Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn ymddangos.
Dydd Llun, 6 Awst
16.30 - Seremoni Coroni'r Bardd
Seremoni'r Coroni
Catrin Dafydd
Catrin Dafydd yn ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol
Tasg 2018: Casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn a heb fod dros 250 o linellau: Olion

Laura Thomas o Gastell Nedd sydd wedi creu'r Goron hyfryd yma

Dydd Mawrth, 7 Awst
11.55 - Seremoni Cyflwyno Medal Syr TH Parry-Williams - er clod
Seremoni Cyflwyno Medal Syr T H Parry-Williams / Sir T H Parry-Williams Memorial Medal
Meinir Lloyd
Cyflwyno Medal Goffa T H Parry Williams i Meinir Lloyd
16.30 - Seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen
Gwobr Goffa Daniel Owen / Daniel Owen Memorial Prize
Mari Williams
Mari Williams yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen
Tasg 2018: Nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf a heb fod yn llai na 50,000 o eiriau

Dydd Mercher, 8 Awst
14.15 - Tlws y Cerddor
Tlws y Cerddor / Musician's Medal
Tim Heeley
Tim Heeley yn ennill Tlws y Cerddor yn yr Eisteddfod
Tasg 2018: Darn i gerddorfa lawn fyddai'n gweddu i ddrama dditectif ar y teledu, heb fod yn hwy na 7 munud
16.30 - Seremoni Priflenor Rhyddiaith
Seremoni'r Priflenor Rhyddiaith / Prose Medal Ceremony
Manon Steffan Ros
Manon Steffan Ros yn ennill y Fedal Ryddiaith
Tasg 2018: Cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau: Ynni

Dyma fydd Eisteddfod olaf Geraint Llifon fel Archdderwydd

Dydd Iau, 9 Awst
11.45 - Cyflwyno'r Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg Er Anrhydedd
I gydnabod ac anrhydeddu cyfraniad helaeth i'r defnydd o'r Gymraeg ym myd Gwyddoniaeth
Y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg er Anrhydedd / Science and Technology Medal
Hefin Jones
13.05 - Cyflwyno Enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn
Tlws Dysgwr y Flwyddyn / Welsh Learner of the Year
Matt Spry
Matt Spry yw enillydd tlws Dysgwr y Flwyddyn 2018
14.30 - Seremoni'r Fedal Ddrama
Tasg 2018: Cyfansoddi drama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd

Rhydian Gwyn Lewis

Dydd Gwener, 10 Awst
16.30 - Seremoni Cadeirio'r Bardd
Cadeirio'r Bardd / Chairing of the Bard
Gruffudd Eifion Owen
Gruffudd Eifion Owen yn ennill Cadair y Brifwyl
Tasg 2018: Awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol a heb fod yn hwy na 250 o linellau: Porth

Bydd y bardd teilwng yn ennill y Gadair hardd yma gan y cerflunydd o Gwm Rhondda, Chris Williams
