Matt Spry yw enillydd tlws Dysgwr y Flwyddyn 2018
- Cyhoeddwyd
Mae Matt Spry wedi ennill tlws Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.
Cyhoeddwyd yr enillydd mewn seremoni arbennig yn Y Dosbarth, Coleg Caerdydd a'r Fro nos Fercher.
Yn wreiddiol o Aberplym, mae Mr Spry yn byw yng Nghaerdydd ers pum mlynedd, ac yn dysgu Cymraeg ers 2015, gyda'r bwriad o sefyll yr arholiad Uwch y flwyddyn nesaf.
Dywedodd fod dysgu Cymraeg wedi bod o "gymorth mawr iddo dros y blynyddoedd diwethaf" a bod yr iaith wedi "newid ei fywyd yn gyfan gwbl".
Mae Mr Spry yn gweithio i Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd fel tiwtor-drefnydd, ac yn gyfrifol am drefnu cyrsiau a dysgu Cymraeg i ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n byw yng Nghaerdydd.
Ei uchelgais meddai, yw parhau i weithio fel tiwtor Cymraeg gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches, yn ogystal â chynnig gwersi Cymraeg mewn carchardai ac i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, chyffuriau neu alcohol.
Derbyniodd Matt dlws arbennig, yn rhoddedig gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, £300 a chael ei wahodd i fod yn aelod o'r Orsedd.
Beirniaid gwobr eleni oedd Lowri Bunford Jones, Carole Bradley a Lowri Haf Cooke a noddwyd y gystadleuaeth gan gwmni Blake Morgan.
Yn ôl y beirniaid roedd y gystadleuaeth yn un o "safon uchel".
Y tri arall yn y rownd derfynol oedd Steve Dimmick, Yankier Pijeira Perez a Nicky Roberts.
Gallwch ddysgu mwy am y cystadleuwyr eraill yma:
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2018