Dyn o Fro Morgannwg wedi marw ar ynys Majorca

  • Cyhoeddwyd
Thomas ChannonFfynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Thomas Channon ar ei wyliau gyda'i ffrindiau yn Magaluf

Mae dyn 18 oed o Fro Morgannwg wedi marw ar ynys Majorca, Sbaen ar ôl disgyn 70 troedfedd oddi ar falconi.

Roedd Thomas Channon o Y Rhws, Barri yn dathlu diwedd ei arholiadau lefel A gyda'i ffrindiau yn Magaluf.

Mae'r Swyddfa Dramor wedi rhyddhau datganiad yn dweud "rydym yn cynorthwyo teulu dyn o Brydain sydd wedi marw yn Majorca, ac rydym mewn cysylltiad gyda'r awdurdodau yn Sbaen.

Mr Channon yw'r trydydd person o Brydain i farw yn ardal fflatiau gwyliau Eden Roc eleni.

Ffynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Mr Channon ger bloc fflatiau gwyliau Eden Roc ar ynys Majorca

Roedd Mr Channon yn aros gerllaw yn Universal Hotel Florida ac mae'r heddlu yn credu iddo grwydro fewn i ardal fflatiau Eden Roc ar ôl colli ei ffrindiau tua 04:00 fore Iau.

Cafwyd hyd i gorff Mr Channon yn ddiweddarach gan arddwr.

Y gred yw bod teulu Mr Channing wedi hedfan allan i Majorca.

Dywedodd un o gymdogion y teulu sydd ddim eisiau cael ei enwi: "dydyn ni ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd ond mae'n drist iawn. Maen nhw'n deulu hyfryd, wastad yn gyfeillgar.

"Mae Thomas a'i frawd yn fechgyn hyfryd sydd wastad yn gwrtais, mae mor drist," meddai.