'Stopiwch y ffỳs am bwy yw arweinydd Ceidwadwyr Cymru'
- Cyhoeddwyd
Mae angen i'r Ceidwadwyr roi'r gorau i "wneud ffỳs" ynghylch pwy yw arweinydd y blaid yng Nghymru, yn ôl un Aelod Seneddol.
Dywedodd AS Mynwy David Davies, sydd hefyd yn gyn-Aelod Cynulliad, fod trafod statws yr arweinydd yn "tynnu sylw".
Mae'r cyfnod enwebu yn cau ddydd Llun yn y ras i ethol olynydd i Andrew RT Davies fel arweinydd y blaid ym Mae Caerdydd.
Mae'r ddau ymgeisydd - Suzy Davies a Paul Davies - wedi dweud y dylai'r enillydd hefyd fod yn arweinydd ar y blaid ar draws Cymru.
'Cystadleuaeth'
Wrth adael ei swydd dywedodd Andrew RT Davies ei bod hi'n "hollol hurt" nad oedd gan arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad - person sy'n dymuno bod yn brif weinidog - "y gallu i fod yn arweinydd ar y Ceidwadwyr yng Nghymru".
Ond mae rhai ffigyrau amlwg o fewn y blaid yn amheus o'r syniad, ac wedi awgrymu y gallai arwain at y blaid yng Nghymru'n dod yn fwy dibynnol ar arian maen nhw eu hunain yn ei godi.
Yn dechnegol dyw swydd 'arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig' ddim yn bodoli, er bod Andrew RT Davies wedi cael ei gyfeirio fel y person hwnnw yn aml.
Mae'r blaid wedi ei gwneud hi'n glir mai ethol arweinydd newydd ar gyfer grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad fydd yr aelodau'n ei wneud.
Mae hynny'n wahanol i Blaid Cymru, a bellach Llafur Cymru, ble mae'r arweinydd yn y Cynulliad hefyd yn dal y swydd honno ar draws Cymru.
Mae David Davies, sy'n cadeirio'r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan, yn cefnogi Paul Davies yn y ras.
Dywedodd bod "cystadleuaeth" wedi bod rhwng Swyddfa Cymru, ble mae Alun Cairns ar hyn o bryd yn Ysgrifennydd Cymru, a'r ACau dros bwy oedd yn gyfrifol am y Ceidwadwyr Cymreig.
"Mae gan arweinydd y grŵp a'r Ysgrifennydd Gwladol swyddogaethau arweinyddol pwysig o fewn y Ceidwadwyr Cymreig a dwi ddim eisiau dechrau trafod pa un sydd yn uwch, pa un sy'n rheoli. Does dim ots," meddai wrth BBC Cymru.
"Does neb yn mynd i fod yn cymryd cyfarwyddiadau. Mae angen stopio gwneud ffỳs am bwy sydd yn rheoli'r cyfan a phwy sydd gyda'r nifer fwyaf o streipiau ar eu braich."
'Tynnu sylw'
Dywedodd fod y drafodaeth ynghylch statws yr arweinydd yn "tynnu sylw oddi wrth y gwaith o ddwyn Llafur i gyfrif".
Ychwanegodd bod gan Ysgrifennydd Cymru a'r arweinydd yn y Cynulliad "gyfleoedd sylweddol" i osod yr agenda yn y cyfryngau ac yng nghynadleddau'r blaid.
"Nid y gwasanaeth tân neu'r heddlu neu'r fyddin yw hwn. Nid fel 'na mae'n gweithio," meddai David Davies.
"Dwi'n meddwl bod awydd diangen wedi bod i geisio gweithio mas pwy sy'n rheoli a phwy sydd ar ben y domen."
Bydd y pleidleisiau'n cael eu cyfrif ac enw'r arweinydd newydd yn cael ei gyhoeddi ar 6 Medi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2018