'Angen codi proffil y celfyddydau ymysg noddwyr'
- Cyhoeddwyd
Dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i geisio codi proffil y celfyddydau ymysg noddwyr, yn ôl un pennaeth opera.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Opera Cenedlaethol Cymru (WNO), Leonora Thomson y dylai gweinidogion ymyrryd er mwyn cynorthwyo i gael mwy o incwm gan fusnesau.
Ychwanegodd nad oedd cefnogaeth gorfforaethol ar gyfer y celfyddydau "ar y radar" yng Nghymru o'i gymharu gyda gweddill y DU.
Mae'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas yn cydnabod fod denu noddwyr yn "galed" ac nad cyfrifoldeb y llywodraeth yw hi i roi pwysau ar fusnesau.
Ms Thomson sy'n gyfrifol am redeg yr WNO o ddydd i ddydd a dywedodd: "Dwi ddim yn credu fod cefnogaeth gorfforaethol ar y radar yng Nghymru yn yr un ffordd ac mae yn Llundain i ddweud y gwir. Dwi'n credu mai dyna un o'r problemau.
'Codi proffil'
"Dyna un o'r rhesymau pam mae llawer un ohonom yn credu gallai'r llywodraeth a'r Cyngor Celfyddydau, gyda'i gilydd, wneud mwy i godi proffil y celfyddydau yng Nghymru ar y cyfan, a phopeth gallai gyflawni."
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: "Dwi ddim yn credu mai rôl y llywodraeth yw rhoi pwysau ar bobl, rôl y llywodraeth yw bod yn bartner.
"Rydym yn bartner i'r Cyngor Celfyddydau ac rydym yn gweithio i ysgogi busnesau i fuddsoddi yn y celfyddydau."
Mae tua 60% o gyllid blynyddol yr WNO yn £18m yn dod o arian cyhoeddus, gan gynnwys grant gan y Cyngor Celfyddydau yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r gweddill yn dod o werthu tocynnau, gyda 11% yn dod drwy ddulliau codi arian.
Yn ôl Ms Thomson mae llai o ffynonellau noddi yng Nghymru o'i gymharu â gweddill y DU.
"Does dim cymaint o gyfoeth, yn gorfforaethol na chwaith yn unigol yng Nghymru o'i gymharu â Llundain," meddai.
"Wedi dweud hynny, pan oeddwn yn Llundain, roedd pethau'n anodd gan fod cymaint o gystadleuaeth.
"Mae llawer o bobl yn cefnogi gweithgareddau chwaraeon a phethau eraill corfforaethol, ond dydyn nhw ddim yn edrych ar y celfyddydau yn yr un ffordd."
'Ymrwymiad'
Yn ddiweddar dywedodd pwyllgor seneddol fod angen i sefydliadau celfyddydol wella eu dulliau o godi arian.
Ychwanegodd Yr Arglwydd Elis-Thomas fod cwmnïau celfyddydol "blaengar" yn ffurfio perthnasau gyda chwmnïau, a bod hynny'n dibynnu ar "ymrwymiad gan y ddwy ochr".
Tan y cwymp ariannol yn 2008 roedd nawdd ar gyfer y celfyddydau yn golygu cwmnïau mawr yn rhoi symiau sylweddol o arian i gael eu logos ar ddeunydd marchnata, neu i gynnal noswaith farchnata mewn digwyddiad celfyddydol.
Dywedodd prif weithredwr Arts and Business Cymru, Rachel Jones fod yr oes o nawdd corfforaethol ar gyfer prosiectau celfyddydol wedi newid yn ddramatig yn y degawd diwethaf.
"Rydym wastad yn mynd fewn gyda meddylfryd 'cydfuddiannol'," meddai.
"Dyw hi ddim yn fater o fusnesau'n cefnogi prosiectau celfyddydol bellach, ond yn hytrach y celfyddydau'n helpu busnesau i gyflawni eu hamcanion drwy fod yn bartneriaid."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2018