'Angen cymorth' ar sefydliadau celfyddydol

  • Cyhoeddwyd
theatr

Mae angen cymorth ar sefydliadau celfyddydol, amgueddfeydd a chestyll os ydyn nhw am oroesi gyda llai o arian cyhoeddus, medd un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Mae cyllid i'r celfyddydau wedi ei rewi tan 2020 ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio sefydliadau eu bod angen "cynyddu'r incwm sy'n cael ei greu gan eu hunain" yn hytrach na dibynnu ar grantiau.

Dywedodd Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad bod angen mwy o gymorth ar sefydliadau er mwyn datblygu sgiliau codi arian.

Ychwanegodd fod cyllid preifat ar gyfer y celfyddydau yn y DU wedi gogwyddo'n drwm tuag ar Lundain a de ddwyrain Lloegr.

'Sefyllfa eironig'

"Nid oes gan Gymru lawer o unigolion cyfoethog iawn, ac ychydig o gwmnïau mawr sydd â'u pencadlysoedd yma," meddai cadeirydd y pwyllgor, Bethan Sayed.

"Y sefyllfa eironig yw y gallai fod angen cymorth ariannol o'r sector cyhoeddus ar sefydliadau celfyddydol er mwyn lleihau eu dibyniaeth ar gyllid o'r sector cyhoeddus.

"Yn fwy penodol, mae'n bosib bod angen cymorth arnynt i ddatblygu'r sgiliau codi arian sydd eu hangen arnynt, ac i ganfod ffynonellau newydd o arian."

Yn 2018-19 bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £31.2m i Gyngor Celfyddydau Cymru, gyda £21.84 i Amgueddfa Cymru, £7.6m i Cadw a £3.65m i'r Cynogr Llyfrau.

Bydd y cyllid wedyn yn cael ei rewi ar gyfer 2019-20.

Fe wnaeth y pwyllgor argymell y dylai Llywodraeth Cymru barhau i ddarparu arian i sefydliadau fel Arts & Business Cymru, sy'n annog busnesau i fuddsoddi yn y celfyddydau.

Dywedodd Arts & Business eu bod wedi derbyn tua £70,000 o arian cyhoeddus bob blwyddyn, ond wedi sicrhau buddsoddiadau gwerth £1m yn y celfyddydau.