'Angen gweithredu' i ddiogelu'r celfyddydau wedi Brexit

  • Cyhoeddwyd
llyfrau
Disgrifiad o’r llun,

Mae grantiau'r Cyngor Llyfrau'n cefnogi tua 200 o gyhoeddiadau Cymraeg bob blwyddyn

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cynlluniau ar gyfer y celfyddydau, y diwydiant cyhoeddi ac amgueddfeydd wedi Brexit, meddai'r Gweinidog Diwylliant Dafydd Elis-Thomas.

Mewn araith yn Fforwm Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas fod yn rhaid i'r gwaith o godi proffil sefydliadau diwylliannol ddechrau'n fuan.

"Rwy'n gofyn i Gyngor y Celfyddydau, y British Council, y Cyngor Llyfrau a'r sector amgueddfeydd i uno ag adrannau perthnasol o'r llywodraeth - diwylliant, diwydiannau creadigol, digwyddiadau mawr, cysylltiadau masnach a rhyngwladol - i weithio gyda'i gilydd i ddatblygu cynllun a fydd yn rhoi gwell canlyniadau diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd i weithgareddau rhyngwladol," meddai.

"Dwi'n gobeithio y bydd cyrff yn elwa ar arbenigedd a gwybodaeth y rhai sy'n gweithio yn y sector - ond yr hyn sy'n allweddol yw ymateb buan."

Disgrifiad o’r llun,

"Rhaid gweithredu ar frys er mwyn diogelu'r celfyddau wedi Brexit," meddai'r Arglwydd Elis-Thomas

Ychwanegodd y gweinidog fod yn rhaid i sefydliadau ystyried "beth sy'n eu gwneud yn unigryw i Gymru".

Dywedodd hefyd bod yn rhaid i sefydliadau benderfynu sut y gallen nhw greu'r argraff orau ar gynulleidfaoedd adref ac ar draws y byd.

Cadarnhaodd yr Arglwydd Elis-Thomas y bydd yn dod â phawb at ei gilydd yn ystod yr haf er mwyn cychwyn ar y cynlluniau.

"Pan fydd rhaid 'dan ni'n gwybod beth sydd angen ei wneud. Ond wrth i'r cloc dician rhaid i ni weithredu ar frys," meddai.

"Felly cyn diwedd yr haf mi fyddai'n cynnal cyfarfod gyda phrif sefydliadau er mwyn canfod y posibilrwydd o gael tîm unedig er budd Cymru."