Heddlu'n holi AS Brycheiniog a Maesyfed am dwyll honedig

  • Cyhoeddwyd
Chris Davies AS

Mae'r AS Ceidwadol Chris Davies wedi cael ei holi'n ffurfiol gan yr heddlu ynglŷn â honiadau yn ymwneud â hawlio treuliau drwy dwyll.

Fe wnaeth AS Brycheiniog a Maesyfed gwrdd â Heddlu'r Met o'i wirfodd ar ôl i'w achos gael ei gyfeirio gan yr Awdurdod Annibynnol i Safonau Seneddol (IPSA).

Mae'r honiadau yn ymwneud â chais am dreuliau ar gyfer lluniau i'w swyddfa etholaethol.

Yn gynharach eleni fe wnaeth y Blaid Geidwadol dderbyn cwyn am gais Mr Davies am £700.

Fe gafodd y gŵyn ei chyfeirio at swyddfa IPAS.

Yn y gorffennol mae Mr Davies, gafodd ei ethol i Dŷ'r Cyffredin yn 2015, wedi dweud iddo wneud camgymeriad gonest yn y modd iddo gyflwyno treuliau.

Mae e'n mynnu nad yw wedi gwneud dim o'i le.

'Ymchwiliad yn parhau'

Mae Mr Davies wedi dweud iddo ad-dalu £450 ar ôl cais gan yr IPSA.

Dywedodd llefarydd ar ran Scotland Yard: "Fe wnaeth swyddog o Awdurdod Annibynnol Safonau'r Senedd gyfeirio mater i'r heddlu ar 4 Ebrill yn ymwneud â honiad o dwyll yn ymwneud â threuliau.

"Fe wnaeth uned arbennig ddechrau ymchwiliad ym Mehefin 2018.

Cafodd dyn 50 oed ei holi o'i wirfodd ar ddydd Mawrth 17 Gorffennaf. Mae'r ymchwiliad yn parhau."

Dywedodd Mr Davies wrth Mail Online ei fod yn cynorthwyo'r heddlu a'i fod yn edrych ymlaen at ddatrys y mater.