Perchnogion tai newydd yn 'gandryll' am gynllun A55
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion tai newydd yn flin ar ôl cael gwybod y gallai'r adeiladau gael eu dymchwel.
Mae'r tai yn Llanfairfechan, Sir Conwy, ar safle sy'n cael ei ystyried i adeiladu ffordd ymadael i'r A55.
Ond cafodd y perchnogion ond wybod am y cynlluniau ar ôl symud i mewn i'w cartrefi newydd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y datblygwr wedi cael gwybod y gallai newidiadau i'r A55 effeithio'r safle.
Mae'r datblygwr, Oaking Developments, wedi cael cais am sylw.
Dan gynlluniau i dynnu cylchfannau o'r A55, byddai dau o'r pum opsiwn posib yn golygu dymchwel y tai.
Dywedodd Leanne Herberts, symudodd i'w chartref newydd ar stad Fernbank ym mis Ebrill, ei bod hi'n "gandryll".
"Clywson ni bod 'na gyfarfod yn y neuadd yn y pentref nesa'. Dyna sut cawson ni wybod.
"Does dim llawer allwn ni ei wneud os ydy o'n digwydd - a dwi'n meddwl y bydd o, o'r hyn mae pobl wedi ei ddweud."
Ychwanegodd ei phartner, John, y gallai'r cynllun effeithio'r tai hyd yn oed os nad ydyn nhw'n cael eu dymchwel.
"Dydw i ddim yn mynd i fod eisiau byw yma os oes ffordd yn mynd drwy'r ardd, ydw i?"
O'r naw tŷ ac wyth fflat yn y datblygiad, mae tua hanner wedi eu llenwi erbyn hyn, gyda sawl yn dai gwyliau.
Cafodd y datblygiad ganiatâd cynllunio yn 2016, ac ym mis Mehefin eleni lansiodd y llywodraeth ymgynghoriad ar dynnu dwy gylchfan o'r ffordd, yn Llanfairfechan a Phenmaenmawr.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi rhoi gwybod i'r datblygwr y gallai newidiadau i'r A55 "altro eu cynlluniau neu gyfyngu ar olygfeydd" yn Fernbank.
Ychwanegodd y llefarydd bod y "cynllun i wella cyffyrdd 15 ac 16 yn ddatblygiad sylweddol yng ngogledd Cymru".
"Byddwn yn ystyried yr holl sylwadau ddaw o'r ymgynghoriad, sy'n gorffen ar 28 Awst, yn ofalus."
Mae'r BBC wedi gofyn a oedd Oaking Developments yn ymwybodol o'r effaith posib gan y cynllun ffordd.