Mudiad yn galw am drafod blaenoriaethau ieithyddol S4C

  • Cyhoeddwyd
S4CFfynhonnell y llun, S4C

Mae Dyfodol i'r Iaith wedi gofyn am gyfarfod buan gyda phrif weithredwr S4C i drafod eu pryderon ynglŷn â sut mae'r sianel yn blaenoriaethu'r Gymraeg.

Yn ôl y mudiad, dim ond 15-20% o oriau darlledu'r sianel sydd ag is-deitlau yn y Gymraeg, i gymharu â 78% o raglenni sydd ag is-deitlau Saesneg.

Dywedodd Eifion Lloyd Jones, llefarydd ar ran Dyfodol i'r Iaith, fod y drefn bresennol yn "amddifadu" siaradwyr Cymraeg sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw.

Mae llefarydd ar ran S4C yn dweud eu bod nhw wedi derbyn cais y mudiad a'u bod nhw'n trefnu dyddiad cyfleus i gyfarfod yr ymgyrchwyr.

Rôl 'bwysig' y sianel

Pryder arall sydd gan yr ymgyrchwyr yw'r cynnydd mewn dialog Saesneg mewn cyfresi dramâu Cymreig.

Ychwanegodd Mr Jones: "Sianel cyfrwng Cymraeg yw S4C, a sianel sy'n bodoli er lles yr iaith.

"Mae gan raglenni o'r fath rôl bwysig i'w chwarae mewn normaleiddio'r Gymraeg, a rhannu'r neges gadarnhaol fod y Gymraeg yn iaith gymunedol, a bod ei dysgu a'i siarad yn sgil sy'n agored i bawb."

"Edrychwn ymlaen at ymateb y sianel, ac at drafodaeth adeiladol ynglŷn â chadarnhau ei hamcan creiddiol."