Y dylluan druan sy'n chwilio am gartref

  • Cyhoeddwyd
tylluan

Mae gwdihŵ amddifad yn chwilio am gartref newydd ar ôl cael ei ddarganfod ar ochr ffordd ger Aberystwyth.

Cyw bach â'i ben yn eu blu oedd Oscar y dylluan frech (tawny owl) pan ddaeth Melanie Owen o Aberystwyth o hyd iddo.

Cysylltodd Melanie gyda Cymru Fyw i ddisgrifio'r hyn ddigwyddodd:.

"Roedd e ar ochr ein lon, yn oer ac yn rhy wan i hyd yn oed agor ei lygaid," meddai Melanie.

"Cymeron ni fe i mewn 'am y noson' fel y gallai farw mewn llonydd, heb i gath neu gadno gael gafael arno."

Ond wnaeth Oscar oroesi.

"Deg wythnos yn ddiweddarach, mae e wedi tyfu'n llawn ac yn byw mewn aviary adeiladodd fy nhad yng nghornel sied ar ein iard ar y fferm," meddai.

Mae Oscar bellach yn holliach, ond yn cael trafferth gadael ei gartref newydd.

"Mae e'n barod i ddefnyddio ei adenydd a gadael y nyth, felly wnaethon ni adael e gael y rhyddid i grwydro fel oedd e mo'yn," meddai Melanie.

"Yn anffodus, mae tylluanod brech yn diriogaethol iawn ac mae'r lleill yn ymosod arno gyda'r nos. Oherwydd hyn, mae Oscar wedi dod 'nôl i ni ac yn amharod i grwydro rhy bell o'i aviary."

"Rydyn ni wrth ein bodd gyda Oscar gan fod e mor annwyl â gyda phersonoliaeth mor cheeky - mae e hyd yn oed yn ateb i'w enw!

"Ond rydyn ni'n deall bod tylluan yn haeddu mwy na chornel o sied, felly rydyn ni'n edrych am gartref addas iddo fe!"

Dywedodd Melanie ei bod hi'n croesawu cynigion i roi cartref addas i Oscar.

'Nabod rhywun?