Tour de France: Yr ymateb i lwyddiant Geraint Thomas

  • Cyhoeddwyd
Neuadd dinas Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd neuadd dinas Caerdydd ei oleuo yn felyn i nodi'r achlysur

Gyda Geraint Thomas ar drothwy ennill y Tour de France mae'r ymateb ar hyd Cymru a thu hwnt wedi bod yn arbennig, gydag enwogion a gwleidyddion ymysg y rhai yn ei longyfarch.

Yr unig beth sydd yn rhaid i Thomas ei wneud i sicrhau'r fuddugoliaeth yn swyddogol yw croesi'r llinell derfyn ym Mharis ddydd Sul.

Yn ôl traddodiad, fydd neb yn herio'r cystadleuydd sydd yn y crys melyn ar ôl cymal 20 - a olygai mai Thomas fydd y Cymro cyntaf i ennill ras fwyaf y byd seiclo.

Cafodd rhannau o neuadd dinas Caerdydd ei oleuo yn felyn nos Sadwrn er mwyn nodi'r achlysur.

Tom Dumoulin enillodd cymal 20, gyda Chris Froome yn ail, ond gorffennodd Thomas ar frig y dosbarthiad cyffredinol munud a 51 eiliad yn glir.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Thomas ei gyfarch gan ei wraig ar ddiwedd cymal 20

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, fod Thomas yn arwr "ysbrydoledig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac ar fin sicrhau ei statws fel un o'r athletwyr gorau erioed".

"Mae Geraint yn lysgennad gwych dros y gamp, ar gyfer Cymru, ac mae wir yn haeddu ei le yn y llyfrau hanes - llongyfarchiadau mawr iddo," meddai.

Roedd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, hefyd yn ei longyfarch: "Mae pawb ohonom mor falch o dy lwyddiant, i dy anrhydeddu, heno (dydd Sadwrn) byddwn yn goleuo ein Senedd genedlaethol yn felyn".

Yn ôl Arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, mae Thomas yn "lysgennad gwych i'w ddinas" ac yn ysbrydoliaeth i bobl ifanc sy'n ystyried cymryd rhan mewn chwaraeon".

Ffynhonnell y llun, Cadw
Disgrifiad o’r llun,

Castell Caerffili

'Gwbl haeddiannol'

Mae sawl un o'r byd chwaraeon hefyd wedi ei longyfarch, gan gynnwys Sam Warburton - a aeth i'r un ysgol a Thomas yng Nghaerdydd.

Dywedodd Warburton fod y fuddugoliaeth yn "gwbl haeddiannol" a "na allai fod wedi digwydd i ddyn neisiach".

Sir Bradley Wiggins oedd y Prydeiniwr cyntaf i ennill y Tour de France ac fe ddisgrifiodd Thomas fel "athletwr gwirioneddol ryfeddol".

Bydd modd dilyn y cyfan o gymal olaf y Tour ar lif byw Cymru Fyw prynhawn dydd Sul.