42 ymgais wedi'u cyflwyno am Goron Eisteddfod Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Coron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Mae 42 casgliad o gerddi wedi ymgeisio am Goron yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, fydd yn cael ei chyflwyno ym mhrif seremoni'r Brifwyl ddydd Llun.

Mae'r Goron wedi'i rhoi gan Brifysgol Caerdydd ac fe fydd yr enillydd hefyd yn derbyn £750 sy'n rhoddedig gan Manon Rhys a Jim Parc Nest - dau sydd wedi ennill y Goron.

Tasg y beirdd eleni oedd cyflwyno casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn ar y testun Olion.

Y beirniaid yw'r cyn-Archdderwydd Christine James, Ifor ap Glyn a Damian Walford Davies.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Laura Thomas o Gastell-nedd wedi treulio oriau yn dylunio'r goron

Laura Thomas o Gastell-nedd sydd wedi dylunio'r Goron, gan dreulio 400 awr ar y gwaith.

Mae hi'n adnabyddus am ei defnydd o waith parquet lle mae'n gosod argaenau pren mewn arian pur.

Mae'r Goron yn cynnwys dros 600 o argaenau chweochrog, pob un wedi cael ei ychwanegu â llaw.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Dywedodd Laura Thomas: "Roeddwn i am i'r Goron adlewyrchu'r defnydd o argaenau cynaliadwy sy'n adleisio datblygiad parhaus technolegau cynaliadwy yn ardal Caerdydd - megis cynhyrchu pŵer sy'n seiliedig ar fiomàs.

"Rydw i wrth fy modd gyda'r gwahanol raenau a'r lliwiau cyferbyniol," meddai am y dechneg, gan ychwanegu ei bod "wastad wedi mwynhau gweithio gyda phren" yn rhannol ar ôl gwylio'i thaid, Jack Owen, yn cerfio anifeiliaid bach o bren solet a haenog.

Y Prifardd Hallam o'r Heli fydd yn cyfarch y prifardd buddugol - ef oedd enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn y llynedd.

Y tro diwethaf i'r brifwyl gael ei chynnal yn y brifddinas enillwyd y Goron gan Hywel Meilyr Griffiths, Siôn Eirian enillodd y Goron yn Eisteddfod Caerdydd 1978 ac ym mhrifwyl y brifddinas yn 1960 fe enillwyd y goron gan W J Gruffydd (Elerydd).

Bore Llun bydd nifer o aelodau newydd yn cael eu derbyn i'r orsedd - yn eu plith prif enillwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2017, ac enillwyr llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017.