Coron Meifod i Manon Rhys
- Cyhoeddwyd
Manon Rhys sydd wedi cipio Coron Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2015.
Dan y ffugenw Jac, fe enillodd hi am gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn hyd at 250 o linellau ar y thema 'Breuddwyd'.
Y beirniaid eleni oedd Cyril Jones - oedd yn traddodi yn y pafiliwn ddydd Llun - Nesta Wyn Jones a Gerwyn Williams.
Roedd 22 o feirdd wedi cystadlu eleni. O'r feirniadaeth roedd hi'n amlwg ei bod yn gystadleuaeth glos, gyda chanmoliaeth fawr i waith mwy nag un bardd, a'r penderfyniad terfynol yn un y bu'n rhaid ei drafod yn ofalus.
'Anesmwytho'r darllenydd'
Wrth drafod y gwaith buddugol, dywedodd Cyril Jones: "Casgliad sy'n anesmwytho'r darllenydd yw hwn, gan ei fod yn archwilio'r tir neb rhwng breuddwyd a hunllef. Mae hyd yn oed arddull y cerddi'n cyfleu hynny gan fod pump ohonynt wedi'u hatalnodi a'r naw arall yn ddiatalnod a'u cywair yn pendilio rhwng darnau mwy ffurfiol a thafodiaith de orllewin Cymru.
"Dau brif gymeriad y casgliad yw'r fam a'i phlentyn a cheir yn y cerddi gymysgedd o elfennau megis colled a cholli pwyll, trais a marwolaeth, a'r rheini wedi'u cadwyno â theitlau sy'n ddywediadau diniwed y plentyn ond yn aml ag arwyddocâd sinistr iddynt; er enghraifft, 'odi cysgu wedi bennu nawr'.
"Mae gafael y bardd hwn ar ei iaith - a'i dafodiaith - yn gwbl gadarn. Dyma ddwy enghraifft o'r gerdd, 'wyt ti wedi gweld eira o'r blaen?': 'a choeden y Nadolig trist/ wrth y clawdd dan gladd gwyn/ fel breuddwyd heb ei thwtsh' a'r llinellau a ganlyn sy'n ateb cwestiwn y teitl: 'fe welais eira o'r blaen/ sawl haen a lluwch/ syfrdan eu disgleirdeb/ cyn salwyno'n sydyn/ mewn drycin ddu'.
"Mae'n defnyddio sawl techneg gynnil i greu dirgelwch ac arswyd. Mae'r gyfeiriadaeth, er enghraifft, yn arswydus o awgrymog ac yn tanio atgofion a meddyliau lled dywyll yn ein dychymyg. Yn y gerdd 'dere i whare cwato', ceir y llinellau: 'Un tro, ddiwedd Ebrill, Parc Machynlleth yn y gwyll/ Rhes o siglenni llonydd, llithren wag - a'r llwyni'n denu'. Ac efallai bod diweddglo'r gerdd 'un llaw fawr, un llaw fach': 'a gresyn nad o'n ni gartre ti na fi/ pan guron nhw'r gwydr coch', yn adleisio'n fwriadol y gân werin am y cariad yn 'curo'r gwydyr glas'. Pwy a ŵyr?
'Cyfleu natur ddarniog breuddwyd'
"Mewn sawl cerdd, hefyd, mae'n cymysgu'r enw 'drysi' a'r berfenw 'drysu' yn fwriadol ac yn cyfeirio'n aml at gymeriad bygythiol 'Jac y broga-gorryn'. Maen nhw'n cyfleu natur ddarniog breuddwyd i'r dim; darnau o'r un freuddwyd yw'r cerddi sy'n mynnu herio'n crebwyll wrth i ni geisio canfod patrwm a llinyn storïol - yr union deimlad a geir ar ôl dihuno a deall arwyddocâd breuddwyd hunllefus. Dyma gasgliad a fynnai ymdroi yn y cof a dychwelyd i anesmwytho a herio."
Yn enedigol o Gwm Rhondda, mae gwreiddiau Manon Rhys yn ardaloedd Aberaeron a Thregaron. Mae hi'n fam i Owain Rhys a Llio Mair Rhys, ac yn byw yng Nghaerdydd ers 30 mlynedd gyda'i gŵr, T. James Jones (Jim Parc Nest).
Mae hi'n awdur nifer o gyfrolau rhyddiaith, gan gynnwys y nofel Neb ond Ni enillodd y Fedal Ryddiaith iddi yn Eisteddfod Wrecsam a'r Fro 2011, dolen allanol. Mae wedi golygu nifer o gyfrolau, ac am 10 mlynedd bu'n cydolygu cylchgrawn llenyddol Taliesin gyda Christine James.
Bellach mae hi wrth ei bodd yng nghanol bwrlwm pump o wyrion a dwy wyres, gan elwa ar eu darluniau, eu doethinebau a'u dywediadau, gydag ambell un i'w clywed yn y cerddi buddugol.
'Emosiynol'
Wrth siarad wedi'r seremoni ddydd Llun, dywedodd Manon Rhys:
"Ro'n i'n emosiynol ar y llwyfan am nifer o ffactorau. Ro'n i'n eistedd ynghanol criw o wyrion a wyresau. Ma' nhw'n rhan o'r cerddi. Nhw ysbrydolodd y llinellau a'r syniadau. Ma' Christine yr Archdderwydd a finne'n ffrindiau agos ers blynyddoedd, ac roedd Jim, fy ngŵr drws nesa' iddi ar y llwyfan. Rhowch hynny at ei gilydd, a, wel…
"Roedd y testun yn heriol. Ro'n i am feddwl am ffordd newydd a heriol i'w ddadansoddi. Breuddwyd yw'r cyflwr mwya' dychmygus, mwya' creadigol sydd. All neb ddweud wrthoch chi fod eich breuddwyd yn amhosibl. Fe wnes i feddwl 'mlaen - dw i wedi cyrraedd rhyw oed erbyn hyn - lle 'dy ni'n meddwl be fydd yn digwydd i ni? Fyddwn ni'n colli'n cof? Fi sydd yn y cerddi. Fyddwn ni angen gofal o ryw fath yn y dyfodol? Alla' i ddim ond gobeithio y bydd fy wyrion a wyresau yno yn sbardun i mi.
A phan ofynnodd Cymru Fyw i'r Prifardd beth oedd hi'n bwriadu gwneud â'r Goron, atebodd "ei gwisgo hi i bob man," siŵr iawn.
Coron 2015
Rhoddwyd y Goron eleni gan Gymdeithas Cymru-Ariannin, a'r wobr ariannol gan y teulu er cof am Aur ac Arwyn Roberts, Godre'r Aran, Llanuwchllyn. Lluniwyd y Goron gan y gof arian, John Price, gynt o Sir Fôn ac yn byw ym Machynlleth bellach - cyn athro crefft a gwneuthurwr nifer o goronau eisteddfodol cain - a gofynnwyd iddo gyfleu'r berthynas agos sy'n bodoli rhwng y Cymry a'u cefndryd yn Nhalaith Chubut wrth ei chreu.
Yn ei chanol, mae carreg a godwyd o draeth Porth Madryn - ble glaniodd y Cymry cyntaf yn 1865. O gwmpas y garreg honno, mae hwyliau llong y Mimosa yn cael eu tynnu i lawr ar ddiwedd y daith.
Mae'r Goron hefyd yn cynnwys symbol o afon Camwy a blodau'r Celyn Bach.