Cymru'n heneiddio: Pam fod hyn yn broblem?

  • Cyhoeddwyd
guto ifan

Mae poblogaeth llawer o wledydd Ewrop yn mynd yn hŷn - a dydy Cymru'n ddim gwahanol.

Fel rhan o'i waith ymchwil, mae Guto Ifan, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, wedi bod yn edrych ar yr heriau y mae'n rhagweld bydd yn wynebu Cymru yn sgil hyn.

Ers degawd bellach, mae poblogaeth Cymru wedi bod yn tyfu'n arafach na phoblogaeth gweddill Prydain.

Cynnydd o lai na 4% sydd wedi bod yn y boblogaeth ers 2007, hanner maint y twf yn Lloegr.

Er i boblogaeth Cymru dyfu'n gynt yn y 1990au ac yn ystod troad y ganrif, mae twf poblogaeth arafach yng Nghymru yn rhywbeth ry'n ni wedi'i weld o'r blaen.

Petai poblogaeth Cymru wedi cynyddu ar yr un raddfa â phoblogaeth Lloegr ers 1921, byddai dros filiwn mwy o Gymry heddiw.

Wrth edrych i'r dyfodol felly, beth yw goblygiadau hyn ar gyllid a gwasanaethau cyhoeddus Cymru?

Effaith cyllidol twf araf yn y boblogaeth

Ar un llaw, mae twf araf poblogaeth Cymru wedi gwarchod lefelau o wariant y pen yng Nghymru.

Yn syml, mae'n rhaid i gyllideb Llywodraeth Cymru gael ei rannu rhwng llai o bobl, ac nid yw'r fformiwla sy'n penderfynu newidiadau blynyddol yng nghyllideb Llywodraeth Cymru (y Fformiwla Barnett enwog) yn adlewyrchu hyn yn llawn.

Twf araf yn y boblogaeth sy'n bennaf gyfrifol am fod gwariant y pen ar wasanaethau datganoledig yng Nghymru wedi cynyddu o 113% o lefel Lloegr yn 2009 i 120% erbyn hyn, dolen allanol.

Cafwyd esiampl dda o hyn yn ddiweddar pan ddaeth i'r amlwg fod gwariant addysg fesul disgybl, dolen allanol yn Lloegr wedi gostwng llawer yn gynt nac yng Nghymru, a hynny'n bennaf oherwydd bod y nifer o ddisgyblion yn Lloegr wedi tyfu o 10% ers 2009, tra'n aros yn wastad yng Nghymru dros yr un cyfnod.

Ond o fis Ebrill nesaf, bydd gwerth £2 biliwn o drethi incwm yn cael eu datganoli i Gymru, a bydd twf cymharol mewn trethi incwm yng Nghymru (o'i gymharu â gweddill Prydain) yn dechrau dylanwadu ar faint cyllideb Cymru.

Fel sy'n cael ei drafod yn ein hadroddiad diweddar, dolen allanol, bydd twf arafach yn y boblogaeth yn golygu twf arafach mewn trethi.

Mae'r twf araf yn nifer y disgyblion heddiw yn golygu twf arafach yn nifer trethdalwyr y dyfodol.

Dosbarthiad oedran poblogaeth Cymru

Mae tueddiadau demograffeg yng Nghymru wedi creu gwahaniaeth amlwg yn nosbarthiad poblogaeth y wlad fesul oedran o'i gymharu â gweddill Prydain.

Mae yna brinder cymharol o bobl rhwng tua 25 a 44 mlwydd oed yn byw yng Nghymru, a mwy o bobl dros 55.

Petai dosbarthiad poblogaeth fesul oedran Cymru yn gyfatebol i un gweddill Prydain, fe fyddai bron 80,000 (neu dros 10%) yn fwy o bobl rhwng 25 a 44 yn byw yma, a dros 100,000 yn llai o bobl dros 55.

Mae hyn yn bwysig oherwydd bod gwariant a refeniw treth y pen yn amrywio'n fawr fesul oedran, dolen allanol.

Amcangyfrif o wariant a threthi y pen fesul oedran yn y Deyrnas Unedig, 2022-23:

Mae yna brinder cymharol o bobl o'r oedrannau sy'n cyfrannu mwyaf o drethi ar gyfartaledd, a sydd yn defnyddio'r lefelau isaf o wasanaethau cyhoeddus a'r wladwriaeth les.

Mae demograffeg Cymru felly yn rhannol gyfrifol am y bwlch mawr, dolen allanol sy'n bodoli rhwng holl wariant yng Nghymru a'r holl drethi sy'n cael eu codi yma.

Ynghyd â ffactorau eraill, bydd newid yn y ddemograffeg dros y degawdau nesaf yn rhoi pwysau cynyddol ar wasanaethau cyhoeddus a chynaladwyedd sylfaen trethi Cymru.

Yn ôl amcan estyniadau mwyaf diweddar, dolen allanol y Swyddfa Ystadegau Gwladol, bydd y boblogaeth dros 75 yng Nghymru yn tyfu o bron i 30% dros y ddegawd nesaf.

Yn wahanol iawn, bydd y boblogaeth rhwng 16 a 64 oed yn gostwng yng Nghymru dros yr un cyfnod, ac yn llawer cynt os bydd lleihad mewn mewnfudo o'r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.

Un ateb i'r broblem demograffeg yma fyddai cynyddu trethi, ffaith sy'n cael ei gydnabod yn fwyfwy ar lefel Gymreig wrth i ymgeiswyr arweinyddol gyflwyno eu polisïau dros yr haf.

Gallai amharodrwydd Llywodraeth y DU i gynyddu trethi a gwariant yn ddigonol, ynghyd â sefyllfa demograffeg benodol Cymru, olygu y bydd rhaid defnyddio pwerau trethiant newydd Cymru.

Syniad yr Athro Gerald Holtham yw creu system yswiriant cymdeithasol, dolen allanol i dalu am wasanaethau gofal, gan amrywio maint cyfraniadau fesul oedran i sicrhau tegwch i genedlaethau ifanc.

'Angen cael pobl ifanc i aros'

Ateb pwysig arall fyddai cynyddu gweithlu Cymru drwy ddenu mewnfudwyr rhyngwladol i fyw a gweithio yng Nghymru, er mor anodd fyddai hynny mewn byd ôl-Brexit.

Ar hyn o bryd, Cymru sydd â'r canran isaf o'r boblogaeth wedi'u geni y tu allan i Brydain o bob gwlad a rhanbarth yn y Deyrnas Unedig.

Mae angen cymhell bobl ifanc i aros, astudio a dilyn gyrfaoedd yng Nghymru.

Bydd atal yr all-lif presennol o bobl yn eu hugeiniau sy'n gadael Cymru, yn enwedig graddedigion, yn rhan allweddol o greu'r Gymru ifanc, fywiog a ffyniannus y dyfodol.