Mynd i'r Maes? Lawrlwythwch ein cerdyn Bingo arbennig
- Cyhoeddwyd
I nifer o Gymry, yr Eisteddfod yw lle bu iddynt gyfarfod eu partneriaid. Mae'r brifwyl yn gartref i gannoedd o atgofion melys am syrthio mewn cariad a darganfod cymar am oes.
Mwy o'r Eisteddfod ar wefan BBC Cymru Fyw, dolen allanol
Ond, i eraill mae'n gallu bod yn un o wythnosau mwyaf lletchwith y flwyddyn. Nid yw'r Maes yn ddim mwy na môr o gyn-gariadon, cop-offs (meddw) neu crush o'r ysgol.
Un person sydd wedi profi hyn ar sawl achlysur yw'r gomedïwraig Esyllt Sears. Er ei bod bellach yn briod gyda phlant, mae hi'n eitha sicr y daw hi wyneb yn wyneb â rhywun o'i gorffennol carwriaethol yn yr Eisteddfod yn flynyddol.
I leddfu rhyw fymryn ar yr chwithigrwydd yma, mi fydd hi'n chwarae gêm o 'Bingo Cyn-gariadon', ac mae hi'n gwahodd defnyddwyr Cymru Fyw i ymunod gyda hi.
Gwyliwch y fideo am y rheolau, a lawrlwythwch y cerdyn holl bwysig.
Pob lwc!