Ap newydd i gynnig profiad 'unigryw' o'r Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd
Ap AR y Maes

Am y tro cyntaf eleni, bydd modd lawrlwytho ap fydd yn cynnig golwg arall ar faes yr Eisteddfod a'r cyffiniau - a hynny drwy Realiti Estynedig (Augmented Reality).

Mae BBC Cymru, S4C a'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cydweithio i greu'r ap dwyieithog AR y Maes i ymwelwyr â'r ŵyl ym Mae Caerdydd.

Fe all ymwelwyr ddefnyddio eu ffonau symudol i weld fideos a lluniau, cael cipolwg drwy waliau a chlywed mwy am beth sydd gan yr ŵyl i'w gynnig.

Disgrifiad,

Lawrlwythwch yr ap am ddim nawr!

Bydd posteri o amgylch y Bae yn arwain ac annog defnyddwyr i lawrlwytho cynnwys digidol ar eu ffonau a dilyn y llwybrau gwahanol sydd ar gael, ac wedi eu rhannu i themâu.

Bydd Esyllt Ethni-Jones o Hansh wrth law i gynnig golwg amgen ar yr arlwy comedi sydd ar gael yn ystod yr wythnos, a Huw Stephens sy'n arwain taith cerddorol o'r Bae.

Yn ogystal, bydd cyfle i weld tu ôl i'r llenni yng Nghanolfan y Mileniwm ac yn Stiwdios y BBC.

Disgrifiad o’r llun,

Stiwdios y BBC ym Mhorth Teigr, ble maen nhw'n ffilmio'r cyfresi poblogaidd Pobol y Cwm a Casualty

Profiad 'unigryw' o'r Eisteddfod drwy ap

Dywedodd Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Arlein S4C: "Ein gobaith yw y bydd yr ap yn ffordd ysgafn a hwyl i Eisteddfodwyr pybyr ddod i nabod yr ardal a'i diwylliant yn well, ac i'r newydd-ddyfodiaid gael blas a dealltwriaeth ddyfnach ar draddodiadau'r Eisteddfod a'r hyn sydd i'w gynnig."

Ychwanegodd Griff Lynch, sy'n arwain ar y prosiect ar ran yr Eisteddfod: "Mae Eisteddfod Caerdydd yn fwy agored ac arbrofol ei natur, ac mae AR y Maes yn atodiad perffaith i'r profiad hwnnw, yn cynnig gwledd o gerddoriaeth, comedi a hanes yr Eisteddfod, bron fel pabell newydd rhith-wir ar y maes...!"