Bathdy Brenhinol: 169 miliwn hen ddarn £1 heb eu dychwelyd
- Cyhoeddwyd
Nid yw tua 169 miliwn o hen ddarnau £1 wedi cael eu dychwelyd, dros naw mis ar ôl iddynt beidio â bod yn arian cyfreithlon.
Cafodd y darn crwn ei ddisodli'n llawn gan y fersiwn 12-ochr ym mis Hydref y llynedd.
Mae tua 138 miliwn o ddarnau £1 crwn wedi eu mwyndoddi i greu rhai o'r 1.5 biliwm o ddarnau £1 newydd.
Dywedodd y Bathdy Brenhinol "y gall y darn arian barhau i gael ei adneuo i gyfrif cwsmer yn y rhan fwyaf o fanciau ar y stryd fawr".
Un o bob 30 yn ffug
Amcangyfrifwyd bod un o bob 30 o'r hen ddarnau £1 yn ffug, felly cyflwynwyd y £1 newydd 12-ochr ar 28 Mawrth 2017.
Dywedodd llefarydd y Bathdy Brenhinol wrth BBC Cymru, "yn seiliedig ar gyfran y darnau arian a ddychwelwyd yn ystod y broses o adennill y darn 50c yn 1997-98, amcangyfrifwyd y byddai tua 85% o'r 1.7 biliwn darn arian £1 oedd mewn cylchrediad ar ddechrau'r cyfnod pontio (neu 1.4 biliwn o ddarnau arian) yn cael eu dychwelyd yn ystod y cyfnod pontio.
"Roedd y canlyniadau yn unol â disgwyliadau.
"Nid ydym yn disgwyl y bydd yr holl ddarnau arian £1 yn cael eu dychwelyd i'r Bathdy.
"Yn ogystal, yn seiliedig ar brofiad o ddychwelyd darnau arian eraill, disgwyliwn y bydd rhai yn cael eu dychweliad am nifer o flynyddoedd i ddod wrth i bobl ddod o hyd i'r rhain".
Gwrthododd y Bathdy Brenhinol ddatgelu faint y byddai mwyndoddi'r 138 miliwn darn £1 crwn yn arbed yng nghostau cynhyrchu'r darn £1 newydd, gan nodi y gallai "datgelu gwybodaeth sy'n gysylltiedig â chostau cynhyrchu darnau arian cyfredol ym Mhrydain achosi anfantais i ni mewn unrhyw drafodaethau yn y dyfodol gyda'n cwsmeriaid tramor am gynhyrchu eu darnau arian. "
Mae'n disgrifio ei hun fel "bathdy blaenllaw y byd o ran allforio", gan wneud darnau arian a medalau ar gyfer 60 o wledydd bob blwyddyn ar gyfartaledd o'r safle yn Llantrisant.
Disgrifiwyd y darn arian newydd fel yr "arian mwyaf diogel yn y byd", gyda chyfres o fanylion gwrth-ffugio, gan gynnwys deunydd y tu mewn y gellir ei ganfod pan gaiff ei sganio'n electronig gan beiriannau.
Yn ôl y Bathdy Brenhinol, gall yr hen ddarn £1 barhau i gael ei gyflwyno i gyfrif cwsmer, naill ai'n fusnes neu'n bersonol, yn y rhan fwyaf o fanciau ar y stryd fawr, gan gynnwys RBS, NatWest, Ulster, HSBC, Barclays, Lloyds, Santander, Nationwide, Clydesdale, Yorkshire Bank, Halifax, Bank of Scotland a Swyddfa'r Post.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2017