Y Parchedig Ddr Alwyn Roberts wedi marw
- Cyhoeddwyd
Yn 84 oed, bu farw'r academydd y Parchedig Ddr Alwyn Roberts a fu hefyd â rhan amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru.
Roedd Mr Roberts yn Is-Brifathro Prifysgol Bangor, a hefyd yn aelod blaenllaw o Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn Gadeirydd y Cyngor Darlledu yng Nghymru.
Bu'n aelod o Gyngor Gwynedd ac o Awdurdod Iechyd Gwynedd ym mlynyddoedd cynnar y ddau gorff.
Yn 2005 ar ôl gwasanaethu ar gyngor yr Eisteddfod am 25 mlynedd, cafodd ei urddo'n Gymrawd yr Eisteddfod Genedlaethol.
'Cydymdeimlad dwys'
Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts:
"Gwnaeth Alwyn Roberts gyfraniad enfawr i'r Eisteddfod dros gyfnod o flynyddoedd lawer, yn Gadeirydd y Cyngor, Llywydd y Llys, ac yn fwyaf diweddar yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Chymrawd.
"Ond roedd cyfraniad Alwyn yn llawer mwy nag unrhyw rôl 'swyddogol'. Roedd o bob amser ar ben arall y ffôn, neu'n barod am sgwrs, yn hael ei gyngor a'i ddoethineb, a'r cyfan yn cael ei gynnig yn ei ffordd ffraeth ac unigryw ei hun.
"Fe fydd colled fawr i'r Eisteddfod ar ei ôl, ac fe fyddaf innau'n gweld colled enfawr o golli Alwyn. Diolch am ei gefnogaeth dros y blynyddoedd, a chydymdeimlad dwys â Mair a'r teulu."
'Profiad helaeth'
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor eu bod wedi eu tristáu o glywed y newyddion.
"Bu ei gyfraniad i waith y Brifysgol yn eithriadol, a bu'n gysylltiedig â hi am dros 60 mlynedd.
"Bu'n fyfyriwr, yn aelod o staff, yn Is-Brifathro, yn aelod o Gyngor y Brifysgol, yn Ddirprwy Ganghellor, ac yn Gadeirydd y Cyngor gan ddod â'i brofiad helaeth a'i gyngor doeth i lu o bwyllgorau a thrafodaethau.
"Fis Gorffennaf eleni, cyflwynodd Prifysgol Bangor Gymrodoriaeth er Anrhydedd iddo fel cydnabyddiaeth o'i wasanaeth sylweddol i Gymru ac yn arbennig i'r Brifysgol."
Cafodd Mr Roberts o Dregarth ei benodi yn aelod o Fwrdd Llywodraethwyr y BBC yn 1979 ac yn Gadeirydd y Cyngor Darlledu yng Nghymru a bu'n un o aelodau cyntaf Bwrdd S4C.
Bu'n Gadeirydd Cymdeithas Celfyddydau Gogledd Cymru ac yn is-gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru.
A bu'n aelod o'r Comisiwn Brenhinol ar Wasanaethau Cyfreithiol ac aelod o'r Bwrdd Parôl.
'Colled fawr'
Mynegodd Cyngor Celfyddydau Cymru ei dristwch heddiw o glywed am farwolaeth Y Parch Ddr Alwyn Roberts, cyn ddirprwy is-ganghellor Prifysgol Bangor a chyn is-Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru.
Gan siarad heddiw, dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:
"Y Gyfraith oedd maes astudiaethau Alwyn yn ystod ei gyfnod Prifysgol ond roedd ei ddiddordebau yn eang iawn ac roedd yn ddiwinydd ac yn gymdeithasegwr o fri hefyd.
"Yn ogystal â'i wasanaeth di-flino i Gyngor Celfyddydau Cymru bu'n weithgar tu hwnt mewn nifer o feysydd gan dreulio cyfnodau fel Aelod o Gyngor Darlledu'r BBC ac yn Gadeirydd a Llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol.
"Bu'r cysylltiad rhyngddo ef a Phrifysgol Bangor yn ymestyn dros hanner canrif a gwn iddo werthfawrogi'n fawr dderbyn gymrodoriaeth er anrhydedd gan y Brifysgol yn ddiweddar.
"Bydd colled fawr ar ei ôl ac mae'n gadael gwaddol sylweddol i fywyd Cymru."
Dywed Yr Athro Elan Closs Stephens, Aelod Anweithredol o Fwrdd y BBC: "Yn ystod y 70au a'r 80au, roedd Alwyn yn ffigwr amlwg ym myd darlledu yng Nghymru fel Llywodraethwr Cymru a Chadeirydd Cyngor Cynulleidfa'r BBC; cyfnod trawsnewidiol a chyffrous gyda dyfodiad S4C, lle bu'n aelod o'r Awdurdod.
"Gyda'i feddwl craff a'i sylwadau doeth gwnaeth gyfraniad gwerthfawr i'r byd darlledu gan sicrhau fod llais Cymru i'w chlywed yn gryf mewn trafodaethau ar y lefel uchaf.
"Nid ar faterion Cymreig yn unig y bu'n llafar; roedd hefyd yn gryf o blaid rhyddid newyddiadurol gan sefyll yn gadarn yn erbyn unrhyw ymyrraeth olygyddol tra'n aelod o'r Bwrdd. Mawr yw ein dyled iddo ac estynnwn bob cydymdeimlad gyda'i deulu."
'Un o gewri darlledu'
Mae Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C wedi rhoi teyrnged i gyn aelod Awdurdod y Sianel.
Dywedodd Mr Jones: "Roedd Alwyn Roberts yn un o gewri'r sefydliadau darlledu - yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig. Fel cynrychiolydd y BBC ar Fwrdd cyntaf Awdurdod S4C, roedd yn allweddol wrth sicrhau cydweithio adeiladol a chyfraniad egnïol gan y Gorfforaeth i lwyddiant y sianel yn ei dyddiau cynnar allweddol.
"Fel un o Lywodraethwr y BBC'n ganolog, gwnaeth safiad oedd yn cael ei barchu'n eang gan ddarlledwyr wrth iddo wrthwynebu penderfyniad y corff hwnnw i ddiswyddo Alasdair Milne, y Cyfarwyddwr Cyffredinol, o dan bwysau gwleidyddol.
"Bu'n gyfaill beirniadol i S4C ar hyd y blynyddoedd, yn arbennig felly wrth gadeirio'r Panel Cydymffurfiaeth yn y 90au. Sicrhaodd drefniadau priodol a dealltwriaeth ddofn o'r pynciau dan sylw wrth alluogi'r sianel i gyfarfod â gofynion rheolaethol tra'n cadw ei hannibyniaeth a'i dewrder golygyddol.
"Gwelwn ei golli yn fawr iawn."
Bywyd cynnar
Ganed Mr Roberts yn Llanrwst yn 1933 ond symudodd y teulu i Arfon pan ddaeth ei dad yn weinidog capel Bethel, Pen-y-groes.
Yno y bu yn yr ysgol cyn mynd i brifysgolion Aberystwyth, Bangor a Chaergrawnt.
Yn 1960 cafodd ei ordeinio'n weinidog yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru cyn symud i India yn brifathro coleg.
Yn 1967 dychwelodd i Gymru a phenodwyd ef yn ddarlithydd yn Abertawe.
Am 10 mlynedd bu'n Ddirprwy Brifathro Prifysgol Cymru Bangor cyn ymddeol yn 1997.
Cafodd ei ethol yn Gymrawd gan ei hen brifysgol yn Aberystwyth a rhoddwyd gradd Doethur yn y Cyfreithiau gan Brifysgol Cymru ar sail ei wasanaeth iddi.