Croeso i Eisteddfod 'wahanol a'r mwyaf agored erioed'
- Cyhoeddwyd
Mae cadeirydd pwyllgor lleol Eisteddfod Genedlaethol 2018, Ashok Ahir wedi ysgrifennu erthygl yn arbennig ar gyfer Cymru Fyw wrth i'r brifddinas baratoi i groesawu miloedd o ymwelwyr ar gyfer naw niwrnod o ddiwylliant, cystadlu a chymdeithasu.
Rydym yn lwcus iawn i gael lleoliad mor arbennig ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol sydd dafliad carreg i ffwrdd o ganol y ddinas.
Wrth sefyll ar y maes yn erbyn cefndir trawiadol Bae Caerdydd, mae'n deimlad anhygoel gweld ffrwyth llafur y cannoedd o drigolion Caerdydd sydd wedi cyfrannu ac ymdrechu dros y ddwy flynedd ddiwethaf i sicrhau Eisteddfod yn y Bae.
Holl gynnwys yr Eisteddfod ar BBC Cymru Fyw, dolen allanol
Eleni, mae hi'n Eisteddfod wahanol iawn a'r un mwyaf agored erioed, nid yn unig am ei fod heb ffiniau ond mewn teimlad ag agwedd.
Rydym wedi ceisio mynd gam ymhellach eleni i hyrwyddo'r Eisteddfod i bobol na sy'n medru'r Gymraeg, i bobol sydd wedi mudo a setlo yma, i bobol o gymunedau gwahanol, ac i'r rhai sydd wedi eu magu yng Nghymru ac efallai wedi mynd trwy ysgolion Cymraeg ond sydd dal i deimlo efallai nad yw'r Eisteddfod yn perthyn iddyn nhw.
Arwydd clir o'n bwriad ni fel Eisteddfod yw dewis anarferol ein cyngerdd agoriadol - sioe yn dathlu bywyd Paul Robeson. Rydym wedi penderfynu agor gŵyl fwyaf ein gwlad, sy'n dathlu'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig, gyda sioe am ddyn du o America nad oedd yn siarad Cymraeg.
Mae cysylltiad Robeson â Chymru yn arwydd i mi o sut mae nifer o bobol sy'n dod o du fas o Gymru yn ei gweld.
Mae gen i hiraeth am Gymru er fy mod wedi fy ngeni a'n magu dros y ffin yn Wolverhampton. Dyma fy nghartref ers degawdau ac mae pobl eraill sy'n galw Cymru yn gartref yn aml yn rhannu'r un hiraeth a theimlad o berthyn, ac roedd Robeson yn un ohonyn nhw.
Dyma ein nod, i drio creu Eisteddfod sy'n cynnwys amrywiaeth profiad o Gymreictod ac sy'n croesawu pawb. Mae bod yn gynhwysol yn rhyw fath o air 'buzz' ffasiynol ond i mi mae'n reit syml ac yn beth oesol - parchu a chroesawu pawb ac ry'n i fel Cymry o hyd wedi bod yn dda am wneud hynny.
Ond tydi ni ddim wastad wedi llwyddo i rannu'r cyfoeth diwylliannol sydd gyda ni ac mae bod yn gynhwysol yn golygu gwneud hynny gyda balchder.
'Dyw e ddim yn beth hawdd o gwbl, ond rydym wedi trio plethu nifer o bethau i'r rhaglen eleni, gan gynnwys cofio Paul Robeson, a digwyddiadau eraill sy'n dod o dan faner Mas ar y Maes, sef partneriaeth rhwng y gymuned LHDT, Stonewall Cymru a'r Eisteddfod. Mae'r elfennau cynhwysol yn rhan bwysig o'n Eisteddfod eleni.
Mae 'na her i ni yma yng Nghaerdydd i geisio creu prifddinas ddwyieithog ac mae rhaid i ni barhau i wneud camau mawr, ac i mi, dwi'n sicr y daw newidiadau trawiadol eleni.
Os yw'r haul yn parhau i wenu fe fydd Bae Caerdydd, hen ardal dociau'r ddinas groesawodd cymaint o ddiwylliannau ac ieithoedd o gwmpas y byd yn ei dydd, yn cynnig cyfle anhygoel i groesawu Cymry Cymraeg a rhai heb brofiad ohoni i fwynhau'r gorau o'n diwylliant, yn draddodiadol ac yn gyfoes.
Rwy'n edrych ymlaen at weld yr holl ymwelwyr yn ymlwybro ar hyd y maes, gan fy mod i a'r pwyllgor gwaith wedi gwthio i gymaint â phosib o bethau i fod am ddim eleni ac i fod mor uchelgeisiol â phosib gyda'n rhaglen.
Mae'r hen a newydd yn gorwedd ochr yn ochr yn ein Eisteddfod eleni - jyst fel tirlun Bae Caerdydd - ac mae modd dathlu a chael ein hysbrydoli fel cenedl gan y ddwy.
Gobeithio y dewch i lawr i'r Bae i rannu a mwynhau'r wythnos gyda ni.