Mwy o blant i gael cymorth banciau bwyd yr haf hwn?

  • Cyhoeddwyd
Cinio YsgolFfynhonnell y llun, School Food Plan

Mae banciau bwyd yng Nghymru'n rhagweld y byddan nhw'n dosbarthu mwy o gyflenwadau brys i blant yr haf hwn na'r llynedd.

Mae Ymddiriedolaeth Trussell, sy'n gyfrifol am fwyafrif banciau bwyd Cymru, yn disgwyl dosbarthu mwy na'r 5,382 o becynnau brys a gafodd eu rhoi yn 2017.

Mae'r sefydliad wedi adnewyddu eu hapêl i'r cyhoedd i gyfrannu bwyd.

Daw'r alwad wrth i un cyngor annog awdurdodau eraill i ddilyn ei esiampl drwy gynnig cinio am ddim mewn cynlluniau chwarae dros y gwyliau.

Dywedodd Cyngor Sir y Fflint eu bod wedi darparu dros 6,000 o brydau yn ystod pythefnos cyntaf y gwyliau eleni.

Dywedodd Samantha Stapley, o'r Trussell Trust: "Ddylai banciau bwyd ddim bod yn ddatrysiad hirdymor i brinder bwyd ar unrhyw adeg o'r flwyddyn.

"Ddylai neb yng Nghymru wynebu newyn, ac er bod ein rhwydwaith ni'n gwneud popeth posib i helpu teuluoedd i gadw dau ben llinyn ynghyd yr haf hwn, dydy hi ddim yn bosib i'r un elusen sicrhau fod gan bawb ddigon o arian am bethau sylfaenol."

Yn ystod gwyliau'r haf y llynedd, fe ddosbarthodd yr ymddiriedolaeth 197 yn fwy o becynnau bwyd brys i blant nag yn 2016.

Mae dros draean o'r pecynnau sy'n cael eu dosbarthu drwy gydol y flwyddyn yn mynd i blant.

Ychwanegodd Ms Stapley: "Mae yna newidiadau y gallwn ni eu gwneud i helpu yn ystod y gwyliau, ond os ydyn ni i warchod ein gilydd rhag newyn, rhaid i ni fyd ym mhellach na hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bernie Attridge o Cyngor Sir y Fflint eisiau darparu bwyd i blant yn ystod pob gwyliau

Mae newyn yn ystod gwyliau ysgol yn dod yn fater sy'n achos mwy a mwy o bryder, gyda grwpiau gwirfoddol, cynghorau a Llywodraeth Cymru'n ymyrryd i geisio sicrhau nad yw plant yn mynd heb fwyd yn ystod y gwyliau haf.

I lawer o deuluoedd ar incwm isel, mae'r gwyliau'n golygu eu bod yn colli'r gwasanaeth brecwast a phrydau am ddim.

Fis diwethaf, cyhoeddodd Cyngor Sir y Fflint gynlluniau i sicrhau fod pobl plentyn oedd yn mynychu cynlluniau gwyliau'r awdurdod yn cael cinio am ddim.

Dywedodd Bernie Attridge, dirprwy arweinydd y cyngor, eu bod wedi dechrau hyn wedi i rai o arweinwyr y cynlluniau chwarae ddweud fod plant yn cyrraedd yn llwglyd.

"Dwi wedi cael fy synnu gyda'r galw ac mae'n drist ein bod ni'n gwneud hyn yn y 21ganrif, ond tan i ni ddileu tlodi bwyd, bydd yn parhau," meddai.

"Os yw plant yn llwglyd drwy'r haf, mae'n rhaid ei fod yn wir yn ystod hanner tymor a'r gwyliau ysgol eraill. Fe hoffwn hefyd weld pob awdurdod lleol yng Nghymru'n dilyn esiampl Sir y Fflint."

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu 2,500 o leoedd ar gynlluniau chwarae "Hwyl a Bwyd" yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, sy'n cynnwys brecwast a chinio am ddim.

Mae capeli, eglwysi a chanolfannau cymunedol hefyd yn darparu bwyd i deuluoedd anghenus.